Skip to main content

Diystyru/eithrio pobl sy'n gadael gofal

Dyma'r drefn

Os ydych chi'n berson sydd wedi neu yn gadael gofal, o dan 25 mlwydd oed, ac yn byw ar eich pen eich hun neu gydag oedolyn arall sy'n 18 oed neu hŷn, mae modd i chi wneud cais am ddisgownt neu eithriad i bobl sydd wedi ac yn gadael gofal, o ran treth y Cyngor.

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)

Mae modd i chi gael gostyngiad yn nhreth y Cyngor, neu eich eithrio rhag ei thalu os ydych chi:

Cyflwyno cais

I wneud cais, bydd gofyn i chi:

  1. Lawrlwytho ac argraffu'r Ffurflen person sydd yn neu wedi gadael gofal.
    neu
    Ffonio'r ganolfan gyswllt ar 01443 425002 i ofyn am ffurflen gais yn y post.
  2. Llenwi adran 1 y ffurflen a'i llofnodi.
  3. Ofyn i'ch Cynghorydd Personol lenwi adran 2 y ffurflen a'i llofnodi.
  4. Wedi i'r ffurflen gael ei llenwi, anfonwch hi i:
    Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
    Tŷ Oldway
    Y Porth
    CF39 9ST

Mae rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Cymorth wrth wneud cais

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddai cymorth wyneb yn wyneb o fudd i chi, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod ag aelod o'r garfan mewn llyfrgell RhCT; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau'r cais a'i gyflwyno.

Trefnu apwyntiad

Rhoi gwybod am newid o ran amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd newid yn eich amgylchiadau, gan y byddai modd i hyn gael effaith ar eich hawl i ostyngiad neu eithriad. 

Rhoi gwybod am newid o ran amgylchiadau

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002