Skip to main content

Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor i bobl anabl

Dyma'r drefn

Os oes person sydd ag anabledd parhaol yn byw yn eich eiddo, ac mai'r eiddo hwnnw yw prif gartref y person dan sylw, a bod newidiadau wedi'u gwneud er diwallu ei anghenion, bydd modd i'ch bil treth y Cyngor gael ei ostwng i fand is.

Bydd eich bil treth y Cyngor yn cael ei ostwng i'r band nesaf i lawr a bydd y ffi ar y gyfradd is yn cael ei chodi arnoch chi. Er enghraifft, bydd ffi eiddo band C yn cael ei godi ar eiddo band D.  Mae modd i filiau eiddo band A gael eu gostwng yn is hefyd.   

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)

Rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad os oes person sydd ag anabledd parhaol yn byw yn eich eiddo, ac mai'r eiddo hwnnw yw prif gartref y person dan sylw, a bod newidiadau penodol wedi'u gwneud er diwallu ei anghenion.

Rhaid i'r eiddo fod wedi cael ei newid mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • mae ystafell ymolchi ychwanegol yn hanfodol ar gyfer y person anabl
  • mae cegin ychwanegol yn hanfodol ar gyfer y person anabl
  • mae ystafell sy'n cael ei defnyddio yn bennaf gan y person anabl (heblaw'r ystafell ymolchi, y gegin neu'r tŷ bach) - er enghraifft ystafell sy'n cael ei defnyddio ar gyfer storio offer dialysis.
  • lle ychwanegol y tu mewn i'r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn.

Dyw ddim ar gyfer y personau canlynol

Dydych chi ddim yn gymwys i gael gostyngiad am addasiadau eraill, megis:

  • Rheiliau llaw
  • Lifft risiau
  • Rampiau
  • Cawod mynediad hwylus

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch chi angen eich rhif treth y cyngor er mwyn cyflwyno cais.

Wedi i chi gyflwyno cais

Wedi i chi gyflwyno cais, byddwn ni'n ymweld â'ch eiddo er mwyn gwirio'i fod yn bodloni ein gofynion. Mae'n bosibl y cymer hyd at 3 mis i gwblhau ein hymweliad. 

Bydd raid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Os bydd eich bil treth y Cyngor yn cael ei gymeradwyo, bydd eich gostyngiad yn cael ei ôl-ddyddio ar sail y dyddiad y cafodd eich eiddo ei newid.

Gwneud cais am Ostyngiad i Bobl Anabl

Cymorth wrth gyflwyno cais

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gymorth wyneb yn wyneb, bydd modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod ag aelod o'r garfan mewn llyfrgell RhCT; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno

Trefnu apwyntiad

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd newid yn eich amgylchiadau gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ostyngiad. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002