Skip to main content

Disgownt yn gysylltiedig â swydd ar ail gartrefi – Treth y Cyngor

Dyma'r drefn

Os yw'n angenrheidiol i chi fyw mewn llety y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu, yn rhan o'ch swydd, ac eich bod chi hefyd yn atebol am dalu treth y Cyngor ar eiddo arall, mae modd i chi gael gostyngiad o 50% ar eich treth y Cyngor.

Mae'r disgownt yn berthnasol dim ond i'r llety rydych chi'n byw ynddo nawr sydd wedi'i ddarparu gan gyflogwr.

Mae'n bosibl y bydd eich ail eiddo wedi bod yn destun ffi ychwanegol rydyn ni'n ei alw'n bremiwm treth y Cyngor. Gwiriwch a oes gyda chi hawl i eithriad o ran talu'r premiwm treth y Cyngor ar eich ail eiddo.

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)

Rydych chi'n gymwys i gael disgownt yn gysylltiedig â swydd ar ail gartref os:

  1. Rydych chi'n atebol am dreth y Cyngor mewn eiddo arall
  2. Yw'ch cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
  3. Yw eich contract cyflogaeth yn mynnu eich bod yn byw yn yr eiddo yna

Ymhlith swyddi y byddai modd i hyn fod yn berthnasol iddyn nhw mae:

  • Gofalwyr (Eiddo)
  • Morwyn
  • Cynhalwyr (Gofalwyr – hynny yw gofalu am bobl)

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Bydd o gymorth os bydd gyda chi eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor. Mae modd ei ganfod ar eich bil treth y Cyngor

Mae'n rhif 8 nod ac mae'n dechrau â 2.

Wedi i chi wneud cais

Wedi i chi wneud cais, byddwn ni'n gofyn am dystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion perthnasol ar gyfer y disgownt.

Bydd arnoch chi angen prawf ynghylch hyn:

  • eich bod yn talu Treth y Cyngor mewn eiddo arall
  • bod eich cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
  • eich contract cyflogaeth

Bydd raid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Gwneud Cais am Ostyngiad Treth y Cyngor sy'n Gysylltiedig â Swydd

Cymorth wrth wneud cais

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gael cymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno.

Trefnu apwyntiad

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich sefyllfa bersonol yn newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ostyngiad. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002