Skip to main content

Gostyngiad Treth y Cyngor i Bersonau Sengl

Dyma'r drefn

Os chi yw'r unig berson, 18 oed neu hŷn, sy'n byw yn eich eiddo ac eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd sydd wedi'u nodi isod, byddwch chi'n cael disgownt person sengl o 25% ar dreth y Cyngor.

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)?

Bydd modd i chi gael disgownt i bersonau sengl os:

  • chi yw'r unig berson 18 oed neu hŷn sy'n byw yn eich cartref sydd angen talu treth y Cyngor
  • eich cartref yw eich unig neu brif breswylfa

Does dim gwahaniaeth faint rydych chi'n ei ennill.

Does dim gofyn i rai pobl dros 18 oed dalu treth y Cyngor; yr enw ar hyn yw bod yn cael eithriad. Wrth bennu ai chi yw'r unig berson yn eich aelwyd sy'n talu treth y Cyngor, peidiwch â chyfrif pobl sy'n cael eu heithrio. Mae'r canlynol ymhlith pobl sy'n cael eu heithrio:

  • myfyrwyr
  • pobl sydd yn ac wedi gadael gofal
  • pobl sydd wedi cael diagnosis o amhariad gwybyddol sylweddol

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch chi angen eich rhif cyfrif treth y Cyngor er mwyn gwneud cais.

Mae rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Treth y Cyngor – Gwneud cais am ostyngiad i bersonau sengl

Cymorth wrth wneud cais

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Mae modd i chi gwrdd mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau'r cais a'i gyflwyno.

Trefnu apwyntiad

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich sefyllfa'n newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ddisgownt. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Adolygiad disgownt person sengl

Rydyn ni'n adolygu disgowntiau personau sengl yn rheolaidd er mwyn gofalu bod pobl yn cael y gostyngiad dim ond pan mae gyda nhw hawl iddo.

Rydyn ni'n gwneud hyn drwy gymharu ein cofnodion ein hunain gyda chofnodion mae asiantaeth eraill yn dal gafael arnyn nhw. Os byddwch chi'n cael disgownt a bod gyda chi ddim hawl iddo bellach, byddwn ni'n cael gwared arno ac yn ei ôl-ddyddio ar sail y dyddiadau sydd ar gael i ni.

Lle mae hynny'n briodol, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn codi cosb ariannol neu'n cymryd camau cyfreithiol os bydd rhywun heb roi gwybod i ni am newid yn eu hamgylchiadau.

Os byddwch chi'n cael llythyr neu e-bost adolygu

Os ydych chi'n derbyn llythyr adolygu gostyngiad i berson sengl, rhowch wybod i ni am eich amgylchiadau presennol er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion.

Mae modd i chi gwblhau eich adolygiad ar-lein, dyma’r ffordd fwyaf hawdd o wneud hynny.  Bydd arnoch chi angen eich...

  • Rhif Adnabod Personol unigryw
  • Rhif Cyfrif Treth y Cyngor
  • Cod post

Mae modd i chi ganfod y manylion yma ar y llythyr neu'r e-bost yr anfonon ni atoch chi.

Dechrau ar eich adolygiad disgownt i berson sengl

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002