Mae sawl modd o dalu treth y Cyngor a rheoli eich cyfrif ar-lein.
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Talu drwy ddebyd uniongyrchol yw'r modd mwyaf hawdd o dalu eich Treth y Cyngor. Byddwch chi'n talu'r swm cywir i ni'n awtomatig ar eich dyddiad talu o ddewis. Mae modd i chi dalu ar 1, 15, neu 25 o bob mis.
Mae modd i chi sefydlu debyd uniongyrchol gyda ni gan ddefnyddio'r cyfrif ar-lein treth y Cyngor.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Talu ar-lein
Mae modd i chi wneud taliad untro o ran treth y Cyngor gan ddefnyddio'n gwasanaeth talu ar-lein.
Er mwyn cwblhau eich taliad ar-lein fe fydd arnoch chi angen:
- eich bil treth y Cyngor
- eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor 8 digid
- y swm ar eich bil y mae gofyn i chi ei dalu
- manylion eich cerdyn
Talu Treth y Cyngor ar-lein
Talu yn un o'n ciosgau IBobUn
Mae modd i chi dalu wyneb yn wyneb yn eich Canolfan IBobUn agosaf gan ddefnyddio ciosgau hunan-wasanaeth.
Er mwyn cwblhau eich taliad, fe fydd arnoch chi angen:
- eich bil treth y Cyngor
- eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor 8 digid
- y swm ar eich bil y mae gofyn i chi ei dalu
- arian parod, cerdyn neu siec
Mae gyda ni ganolfannau IBobUn yn:
- Llyfrgell Pontypridd
- Llyfrgell Aberdâr
- Plaza Y Porth
- Llyfrgell Treorci
- Llyfrgell Aberpennar
Lleoliadau Llyfrgelloedd RhCT a'u horiau agor
Talu yn y Swyddfa Bost neu mewn man Payzone
Mae modd i chi dalu mewn Swyddfa Bost neu siop lle mae man Payzone
Bydd arnoch chi angen eich cod bar a'ch bil er mwyn gwneud y taliad.
Dod o hyd i Swyddfa Bost neu siop ag ynddi fan Payzone