Skip to main content

Talu Treth y Cyngor

Mae sawl modd o dalu treth y Cyngor a rheoli eich cyfrif ar-lein.

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol

Talu drwy ddebyd uniongyrchol yw'r modd mwyaf hawdd o dalu eich Treth y Cyngor. Byddwch chi'n talu'r swm cywir i ni'n awtomatig ar eich dyddiad talu o ddewis. Mae modd i chi dalu ar 1, 15, neu 25 o bob mis.

Mae modd i chi sefydlu debyd uniongyrchol gyda ni gan ddefnyddio'r cyfrif ar-lein treth y Cyngor.

Sefydlu Debyd Uniongyrchol

Talu ar-lein

Mae modd i chi wneud taliad untro o ran treth y Cyngor gan ddefnyddio'n gwasanaeth talu ar-lein.

Er mwyn cwblhau eich taliad ar-lein fe fydd arnoch chi angen:

  • eich bil treth y Cyngor
  • eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor 8 digid
  • y swm ar eich bil y mae gofyn i chi ei dalu
  • manylion eich cerdyn

Talu Treth y Cyngor ar-lein

Talu yn un o'n ciosgau IBobUn

Mae modd i chi dalu wyneb yn wyneb yn eich Canolfan IBobUn agosaf gan ddefnyddio ciosgau hunan-wasanaeth.

Er mwyn cwblhau eich taliad, fe fydd arnoch chi angen:

  • eich bil treth y Cyngor
  • eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor 8 digid
  • y swm ar eich bil y mae gofyn i chi ei dalu
  • arian parod, cerdyn neu siec

Mae gyda ni ganolfannau IBobUn yn:

  • Llyfrgell Pontypridd
  • Llyfrgell Aberdâr
  • Plaza Y Porth
  • Llyfrgell Treorci
  • Llyfrgell Aberpennar

Lleoliadau Llyfrgelloedd RhCT a'u horiau agor

Talu yn y Swyddfa Bost neu mewn man Payzone

Mae modd i chi dalu mewn Swyddfa Bost neu siop lle mae man Payzone

Bydd arnoch chi angen eich cod bar a'ch bil er mwyn gwneud y taliad.

Dod o hyd i Swyddfa Bost neu siop ag ynddi fan Payzone