Dyma'r drefn
Os yw'n angenrheidiol i chi fyw mewn llety y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu, yn rhan o'ch swydd, ac eich bod chi hefyd yn atebol am dalu treth y Cyngor ar eiddo arall, mae modd i chi gael gostyngiad o 50% ar eich treth y Cyngor.
Mae'r disgownt yn berthnasol dim ond i'r llety rydych chi'n byw ynddo nawr sydd wedi'i ddarparu gan gyflogwr.
Mae'n bosibl y bydd eich ail eiddo wedi bod yn destun ffi ychwanegol rydyn ni'n ei alw'n bremiwm treth y Cyngor. Gwiriwch a oes gyda chi hawl i eithriad o ran talu'r premiwm treth y Cyngor ar eich ail eiddo.
Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)
Rydych chi'n gymwys i gael disgownt yn gysylltiedig â swydd ar ail gartref os:
- Rydych chi'n atebol am dreth y Cyngor mewn eiddo arall
- Yw'ch cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
- Yw eich contract cyflogaeth yn mynnu eich bod yn byw yn yr eiddo yna
Ymhlith swyddi y byddai modd i hyn fod yn berthnasol iddyn nhw mae:
- Gofalwyr (Eiddo)
- Morwyn
- Cynhalwyr (Gofalwyr – hynny yw gofalu am bobl)
Cyflwyno cais
Cyn i chi ddechrau
Bydd o gymorth os bydd gyda chi eich rhif cyfeirnod treth y Cyngor. Mae modd ei ganfod ar eich bil treth y Cyngor
Mae'n rhif 8 nod ac mae'n dechrau â 2.
Wedi i chi wneud cais
Wedi i chi wneud cais, byddwn ni'n gofyn am dystiolaeth eich bod yn bodloni'r gofynion perthnasol ar gyfer y disgownt.
Bydd arnoch chi angen prawf ynghylch hyn:
- eich bod yn talu Treth y Cyngor mewn eiddo arall
- bod eich cyflogwr wedi darparu'r eiddo yr ydych yn hawlio gostyngiad amdano
- eich contract cyflogaeth
Bydd raid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.
Gwneud Cais am Ostyngiad Treth y Cyngor sy'n Gysylltiedig â Swydd
Cymorth wrth wneud cais
Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gael cymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno.
Trefnu apwyntiad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich sefyllfa bersonol yn newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ostyngiad.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Cysylltwch â ni
E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002