Skip to main content

Ceisiadau am ddelweddau teledu cylch cyfyng ar gyfer achosion cyfreithiol

Mae darparu recordiadau teledu cylch cyfyng o dan Adran 35 (2) o Ddeddf Diogelu Data 1998 yn ddewisol, ond, mae modd caniatáu eu datgelu mewn achosion sy'n gysylltiedig ag achosion cyfreithiol, ar gyfer cael cyngor cyfreithiol, neu ar gyfer profi, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol. Er enghraifft, mae ceisiadau o dan Adran 35, gan amlaf, yn cael eu gwneud gan gwmnïau yswiriant wrth ddelio â hawliadau yn achos cerbydau modur.

Sut mae gwneud cais am weld recordiad teledu cylch cyfyng?

Rhaid gwneud pob cais yn ysgrifenedig – er enghraifft, llythyr, e-bost, ac ati. Fydd y Cyngor ddim yn ymateb i geisiadau sy'n cael eu gwneud ar lafar.

Cwmni yswiriant – cais am ddatgelu recordiad teledu cylch cyfyng ar gael yma

Ydy'r Cyngor yn codi tâl?

Ydy. Mae tâl o £10 ynghlwm wrth y gwaith chwilio. Does dim modd ad-dalu'r gost yma.

Gwnewch y siec yn daladwy i “Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf”. Anfonwch y siec gyda'r cais.

Fyddwn ni ddim yn dechrau'r gwaith chwilio cyn derbyn ffurflen gyflawn a'r tâl perthnasol.

Wrth wneud cais, pa wybodaeth dylwn i ei darparu?

Mae'r ffurflen yn nodi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ni. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth amdanoch chi, y sefydliad rydych chi'n gweithio iddo, y recordiad sydd ei angen arnoch chi, a'r rheswm dros wneud y cais.

Bydd rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl ar y ffurflen yn ein helpu ni i ddod o hyd i'r recordiad rydych chi'n gwneud cais am ei weld, ac yn ein galluogi ni i ymateb i'ch cais yn gyflymach.

I ble rydw i'n anfon y cais?

Mae modd anfon y cais drwy e-bost i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu drwy'r post i:

Rheoli gwybodaeth/Information Management  
Canolfan Hamdden Rhondda Fach|Rhondda Fach Leisure Centre
Tylorstown
CF43 3HR

Anfonwch sieciau drwy'r post i'r cyfeiriad uchod.

Pan fydd y cais yn cyrraedd y Cyngor, beth fydd yn digwydd?

Pan fydd eich cais yn cyrraedd, byddwn ni'n gwirio'r manylion i wneud yn siŵr bod gennym ni bopeth sydd ei angen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais. Os bydd gennym ni'r holl wybodaeth sydd ei hangen, bydd eich cais yn cael ei ddilysu. Yna, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi (drwy e-bost, fel arfer, os byddwch chi wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni, neu drwy lythyr), gan roi cyfeirnod eich cais ac erbyn pryd gallwch chi ddisgwyl cael ymateb.

Os fydd gennym ni ddim yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer bwrw ymlaen â'ch cais, byddwn ni'n cysylltu â chi ac yn gofyn am gael rhagor o wybodaeth. Mae'n bosibl byddwn ni'n cysylltu â chi drwy neges e-bost, dros y ffôn, neu drwy lythyr – yn dibynnu ar y manylion cyswllt byddwch chi wedi eu rhoi i ni.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon ata i?

Byddwn ni'n anfon y recordiad atoch chi drwy borth diogel. Byddwn ni'n rhoi cyfarwyddiadau i chi ynglŷn â sut i gael gafael ar y recordiad pan fydd wedi ei lwytho i'r porth diogel.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r Cyngor yn defnyddio teledu cylch cyfyng, cliciwch yma.