Bwriad ein Cynghrair Dynion yn Erbyn Cam-drin Domestig newydd yw annog dynion i ddod yn gynghreiriaid gweithredol, herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol, a hyrwyddo perthnasoedd iach, parchus a chyfartal.
Nodau Allweddol:
- Annog dynion i ddod yn gynghreiriaid gweithredol er mwyn atal cam-drin domestig.
- Herio agweddau, ymddygiadau a normau cymdeithasol niweidiol sy'n galluogi cam-driniaeth.
- Hyrwyddo perthnasoedd iach, parchus a chyfartal.
- Codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a'i effaith ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.
- Annog dynion i siarad, cymryd cyfrifoldeb a chefnogi newid diwylliannol.
- Creu cymunedau mwy diogel drwy atal, addysgu ac eirioli.
Yr hyn yr ydym yn gofyn i bartneriaid ymrwymo iddo:
- Cefnogi egwyddorion y Cynghrair yn gyhoeddus.
- Enwebu hyrwyddwr yn y gweithle neu’r gymuned.
- Codi ymwybyddiaeth drwy negeseuon cyfathrebu, ymgyrchoedd ac achlysuron.
- Annog hyfforddiant ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ymhlith staff a gwirfoddolwyr.
- Herio ymddygiadau ac agweddau amhriodol pan fyddan nhw'n codi.
- Hyrwyddo gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr.
- Cynnwys dynion a bechgyn mewn sgyrsiau cadarnhaol am barch a chydraddoldeb.
- Gweithio ar y cyd i gyflawni gweledigaeth a rennir o gymunedau sy'n rhydd rhag cam-driniaeth.
Rydyn ni'n awyddus i weithio gyda sefydliadau a charfanau sydd eisiau cefnogi nodau’r Cynghrair Dynion yn erbyn Cam-drin Domestig. Mae modd i ni gynnig cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd codi ymwybyddiaeth, wedi'u teilwra i'ch anghenion. Os hoffech chi drafod sut y mae modd i ni gefnogi’ch sefydliad neu drin a thrafod cyfleoedd i gydweithio, cysylltwch â ni.
Manylion Cyswllt: Dynionynerbyncam-drindomestig@rctcbc.gov.uk