Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn ymwneud ag Alcohol, sydd wedi bod ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol ers CHWE blynedd ar ôl i 95%* o drigolion ddweud y bydden nhw'n cefnogi’r estyniad.
Mae mesurau llym i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a sylweddau meddwol yn Rhondda Cynon Taf wedi'u hymestyn tair blynedd.
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol yn neilltuo ardal gyfan Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir gyda 2 Barth Dim Alcohol dynodedig i roi pwerau i Swyddogion Awdurdodedig i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae modd felly i Swyddogion Awdurdodedig fynnu bod person yn ildio'r alcohol sydd yn ei feddiant, a rhoi'r gorau i yfed os ydyn nhw'n dangos, neu'n debygol o ddangos, ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y gosb uchaf am beidio â chydymffurfio yw £100.
Os bydd rhywun yn cael ei ganfod yn yfed alcohol yn y 2 'Barth Dim Alcohol Dynodedig' yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, mae gan Swyddogion y pwerau i gymryd caniau/poteli alcohol sydd wedi'u hagor oddi ar berson. Os byddan nhw'n gwrthod ildio'r alcohol, byddan nhw'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Bydd unigolion sydd wedi cael eu rhybuddio ac sy'n parhau i yfed yng nghanol y dref yn wynebu camau gorfodi pellach, gan gynnwys Hysbysiad Gwarchod y Gymuned a fydd yn eu gwahardd o ganol y dref.
Mae 'parth dim alcohol' Aberdâr yn cynnwys canol y dref, safle Sobell a'i gaeau chwarae (Yr Ynys), Gorsaf Drenau Aberdâr a Maes Parcio Glofa'r Gadlys. Mae'r parth ym Mhontypridd yn cynnwys canol y dref, Parc Coffa Ynysangharad, a'r gorsafoedd trenau a bysiau. Mae'r parthau hyn hefyd yn ymwneud â defnyddio sylweddau meddwol, nid dim ond alcohol.
Bwrw golwg ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2024