Mae mesurau llym er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas ag alcohol a sylweddau meddwol yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu hymestyn am dair blynedd arall.
Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag Alcohol cyfredol, sydd wedi bod ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol ers CHWE mlynedd wedi i 95%* o drigolion nodi y bydden nhw'n cefnogi'r estyniad.
Ym mis Hydref 2018, cyflwynodd y Cyngor y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ymgais i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth megis ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth eraill dros y CHWE blynedd diwethaf i orfodi hyn a mynd i'r afael ag yfed ar y strydoedd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae ffigurau diweddar yn dangos bod Canol Trefi Pontypridd ac Aberdâr yn parhau i brofi cyfraddau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol, hyd yn oed yn ystod cyfnod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol. Mae hyn yn awgrymu bod angen i'r Gorchymyn barhau i fod ar waith ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi hefyd fod mwyafrif helaeth yr unigolion a ddaeth i gysylltiad â swyddog awdurdodedig dros y CHWE blynedd diwethaf wedi cydymffurfio â’r cais i roi’r gorau i yfed.
Caiff y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol ei orfodi ar y cyd gan y Cyngor a Heddlu De Cymru.
O dan amodau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, rhaid i’r Cyngor adolygu ac ystyried y gorchymyn bob tair blynedd, er mwyn sicrhau bod y rheolau yn parhau i ddiwallu anghenion y cyhoedd. O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad gyda thrigolion yn ddiweddar er mwyn derbyn eu barn mewn perthynas â pha mor llwyddiannus y mae'r mesurau yma wedi bod ac a ddylen nhw barhau i fod ar waith. O'r rheiny oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg, roedd 66% wedi nodi eu bod nhw'n teimlo bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag Alcohol wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd ledled ein Bwrdeistref Sirol.
Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn neilltuo ardal gyfan Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir i roi pwerau i Swyddogion Awdurdodedig i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae modd felly i Swyddogion Awdurdodedig fynnu bod person yn ildio'r alcohol sydd yn ei feddiant, a rhoi'r gorau i yfed os ydyn nhw'n achosi, neu'n debygol o achosi, ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y gosb uchaf am beidio â chydymffurfio yw £100.
Os bydd rhywun yn cael ei ganfod yn yfed alcohol yn y 2 'Barth Dim Alcohol Dynodedig' yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd, mae gan Swyddogion y pwerau i gymryd caniau/poteli alcohol sydd wedi'u hagor oddi ar berson. Os byddan nhw'n gwrthod ildio'r alcohol, byddan nhw'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Bydd unigolion sydd wedi cael eu rhybuddio ac sy'n parhau i yfed yng nghanol y dref yn wynebu camau gorfodi pellach, gan gynnwys Hysbysiad Gwarchod y Gymuned a fydd yn eu gwahardd o ganol y dref.
Mae 'parth dim alcohol' Aberdâr yn cynnwys canol y dref, safle Sobell a'i gaeau chwarae (yr Ynys), Gorsaf Drenau Aberdâr a Maes Parcio Pwll Glo'r Gadlys. Mae'r parth ym Mhontypridd yn cynnwys canol y dref, Parc Coffa Ynysangharad, yr orsaf drenau a'r orsaf fysiau. Mae'r parthau yma hefyd yn berthnasol i'r defnydd o sylweddau meddwol, nid dim ond alcohol.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
"Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag Alcohol wedi bod ar waith ers dros CHWE blynedd bellach ac mae'n cael effaith gadarnhaol ar ganol ein trefi a chymunedau ehangach.
"Trwy weithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, cyflwyno wardeiniaid cymuned ac ariannu 10 Swyddog Cymorth Cymuned yr Heddlu, mae nifer sylweddol o Swyddogion ychwanegol yng nghanol ein trefi yn canolbwyntio ar orfodi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas ag Alcohol, ac mae'r rhain yn cynorthwyo plismona canol tref a blaenoriaethau diogelwch cymunedol ymhellach.
“Mae ffigurau’n dangos bod canol trefi Aberdâr a Phontypridd wedi parhau â’r cyfraddau uchaf o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod cyfnod y Gorchymyn presennol. Mae hyn yn awgrymu bod cadw'r Gorchymyn yn parhau i fod yn bwysig ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi hefyd fod mwyafrif helaeth yr unigolion a ddaeth i gysylltiad â swyddog awdurdodedig dros y CHWE blynedd diwethaf wedi cydymffurfio â’r cais i roi’r gorau i yfed.
"Fodd bynnag, ers ymgynghori ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer RhCT yn 2021 a'i ymestyn, mae gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi'u cofnodi gan Heddlu De Cymru yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd. Bu gostyngiad 23% yn y math yma o achosion yng nghanol tref Pontypridd , o 183 achos ym mlwyddyn ariannol 2021-22, i 140 achos yn 2023/24. Yn yr un modd, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Aberdâr wedi gostwng o 305 achos i 217 achos yn yr un cyfnod, sy'n ostyngiad o 29% yn ei gyfanrwydd.
"Ar ôl ystyried yr holl adborth o’r ymgynghoriad, y data diweddaraf yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol, mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno ar yr holl argymhellion gan Swyddogion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Felly bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael ei roi ar waith dros y tair blynedd nesaf, o fis Hydref 2024.”
Mae modd gweld yr adroddiad y Cabinet yma: https://rctcbc.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=132&MId=50005267&Ver=4&LLL=0
Wedi ei bostio ar 03/10/24