Oherwydd effaith y Coronafeirws, a lefel y newid rydyn ni yn ei brofi, mae llawer o staff yn teimlo'n bryderus ac yn ynysig.
Er mwyn cynnig cefnogaeth yn ystod yr amser anodd yma, mae'r Cyngor wedi cyflwyno Llinell Gymorth Lles ar gyfer staff, cynghorwyr a phartneriaid craidd. Mae'r llinell gymorth lles yn cynnig y gefnogaeth ganlynol: -
i) Cyfeirio at wefan RCT Source ac ymyriadau pellach am gefnogaeth
ii) Sesiynau un-i-un gyda'n hyfforddwyr cymwys
iii) Galwad lles 15 munud gydag ymgynghorydd cymwys (mae'r gwasanaeth yma'n wasanaeth 'ffonio yn ôl' ac mae ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau yn unol ag anghenion y cleient)
Mae pob galwad yn gyfrinachol fyddan nhw ddim yn rhan o unrhyw broses cofnodi iechyd galwedigaethol. Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar wahan i Wyliau'r Banc) 8:30 tan 18:00.
Mae modd i chi hefyd gyrchu'r gwasanaeth Llinell Gymorth Lles drwy:
• Anfon e-bost i: llinellgymorth@rctcbc.gov.uk
• Ffonio unrhyw un o'r rhifau canlynol: -
(Mae'r rhifau canlynol wedi'u diweddaru ers yr e-bost a anfonwyd ar 27 Mawrth - defnyddiwch y rhifau isod yn unig)
Craig - 07384 910 525
Sian - 07384 910 524
Kylie - 07799 116 571
Luke - 07824 496 496
Mikaela - 07557 573 813
Nikki - 07384 910 488
David - 07384 910 527
Carys - 07384 910 491
David - 07384 910 487
Emma - 07769 164 673
Ann - 07880 044 475
Mae modd i weithwyr ddod o hyd i wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol sy'n cynnwys llinellau cymorth lleol a chenedlaethol ar ein modiwlau Iechyd Meddwl a Choronafeirws ar RCT Source (https://rctlearningpool.com).
Dosbarthwch y llyfryn sydd wedi'i atodi ymhlith y staff sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu at RCT Source.