Rhif ffôn y Cyngor y tu allan i oriau'r swyddfa ac mewn argyfwng: 01443 425011
Byddwch yn barod
Mewn llifogydd efallai y cewch chi eich hun mewn sefyllfa lle nad oes golau, gwres na llinell ffôn. Bydd y camau syml canlynol yn eich helpu i fod yn barod. Yr amser i feddwl amdano yw nawr – peidiwch ag aros nes bydd yn digwydd. Os byddwch chi wedi paratoi'n drylwyr, byddwch chi'n gallu ymdopi'n well os daw llifogydd.
- edrychwch i weld a ydych chi mewn ardal sy'n wynebu risg llifogydd. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru - Llifogydd am ragor o wybodaeth
- gwnewch yn siŵr bod gyda chi yswiriant digonol. Mae difrod llifogydd yn cael ei gynnwys yn y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant adeiladau, ond gwiriwch eich yswiriant cartref a chynnwys
- yn ogystal â'ch Pecyn Argyfwng yn y Cartref, cadwch fenig rwber, welingtons a dillad gwrth-ddŵr
- cadwch fanylion eich polisïau yswiriant a'u rhif cyswllt mewn argyfwng mewn lle diogel – y lle gorau fyddai gyda'ch Pecyn Argyfwng yn y Cartref
- ceisiwch ddod i'r arfer o storio eitemau gwerthfawr neu o werth personol yn y llofft neu mewn man uchel yn eich cartref
- gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod lle mae'ch man diffodd nwy a thrydan
- os ydych chi'n byw mewn ardal sydd mewn perygl o gael llifogydd, ystyriwch brynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd er mwyn blocio drysau a brics aer
Beth i'w wneud pan fyddwch chi'n clywed rhybudd
- Gwrandewch am rybuddion ar y radio a'r teledu, a ffoniwch y Llinell Llifogydd (Floodline) ar 0345 988 1188 neu ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru - Llifogydd i gael rhagor o wybodaeth
- Symudwch anifeiliaid anwes, cerbydau, pethau gwerthfawr ac eitemau eraill i rywle diogel
- Dywedwch wrth eich cymdogion, yn enwedig yr henoed
- Rhowch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd yn eu lle – ond gwnewch yn siŵr bod digon o aer yn y tŷ
- Byddwch yn barod i ddiffodd y nwy a'r trydan (gofynnwch am help os oes angen)
- Gwnewch gymaint â phosibl yng ngolau dydd. Bydd gwneud pethau yn y tywyllwch yn anoddach, yn enwedig os bydd y trydan yn methu
Byddwch yn effro i beryglon llifogydd
- Mae llifogydd yn gallu lladd. Peidiwch â cheisio cerdded neu yrru drwy lifogydd – gall chwe modfedd o ddŵr sy’n symud yn gyflym eich llorio a gall dwy droedfedd o ddŵr fod yn ddigon i wneud i’ch car chi arnofio
- Gall cloriau tyllau archwilio ddod yn rhydd ac efallai y bydd peryglon eraill na fyddwch yn gallu eu gweld
- Peidiwch byth â cheisio nofio drwy ddŵr sy’n symud yn gyflym – gallech chi gael eich tynnu i ffwrdd neu gael eich bwrw gan rywbeth sy’n arnofio yn y dŵr
- Ceisiwch osgoi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd – gall fod wedi’i lygru â charthffosiaeth
Glanhau
Os ydych wedi cael llifogydd:
- Ffoniwch linell argyfwng (24 awr) eich cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth i chi am sut i ddelio â’ch hawliad ac yn eich helpu i gael pethau mewn trefn eto.
- Agorwch ddrysau a ffenestri i awyru’ch tŷ, ond gwnewch yn siŵr bod eich cartref a’ch pethau gwerthfawr yn ddiogel. Mae’n cymryd tua mis i fodfedd o fricsen tŷ sychu.
- Cysylltwch â’ch cwmni nwy, trydan a dŵr. Gwnewch yn siŵr bod rhywun yn gwirio’r cyflenwad cyn ei droi’n ôl ymlaen. Golchwch dapiau a’u rhedeg am rai munudau cyn eu defnyddio eto.
- Taflwch unrhyw fwyd a all fod wedi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd – efallai ei fod wedi’i lygru.
- Gochelwch rhag masnachwyr ffug. Gwiriwch y geirda ac os oes modd, cyflogwch weithiwr mae rhywun arall wedi’i argymell.
Mae gwefan GOV.UK a gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gysylltu â'r Garfan Cynllunio ar gyfer Argyfyngau, defnyddiwch y manylion isod:
Carfan Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
Tŷ Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
Ffôn: 01443 432999
Rhif ffôn y Cyngor y tu allan i oriau'r swyddfa ac mewn argyfwng yw: 01443 425011