Ers 23 Mawrth, yn unol â'r cyngor gwyddonol, mae meithrinfeydd, ysgolion a cholegau wedi aros ar agor i grŵp o blant a phobl ifainc sy'n cael blaenoriaeth, plant gweithwyr allweddol/hanfodola phlant sy'n agored i niwed. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir wrth nodi y byddan nhw'n adolygu'r trefniant yma yn unol â'r cyngor gwyddonol. Mae wedi llunio strategaeth adfer, wrth hefyd ofalu bod diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf.
Mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi, o fis Medi 2020:
- Bydd ysgolion yn dychwelyd i'w capasiti llawn, gyda dim ond pellter cymdeithasol cyfyngedig o fewn grwpiau cyswllt.
- Wrth weithredu'n llawn, dylai grŵp cyswllt gynnwys tua 30 o blant.
- Does dim modd osgoi rhywfaint o gymysgu uniongyrchol neu anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt, megis ar drafnidiaeth, wrth dderbyn addysgu arbenigol neu yn sgil cyfyngiadau staffio.
- Dylai oedolion barhau i gadw pellter cymdeithasol yn unol â rheoliadau a chanllawiau, lle bo hynny'n bosibl.
- Bydd gofyn i ysgolion leihau'r risg o drosglwyddo'r haint drwy gymryd mesurau lliniaru eraill gan ddefnyddio hierarchaeth o reolaethau risg.
- Dylai pob ysgol barhau i "ddiogelu'i hun rhag COVID-19", a hynny ar ôl cynnal asesiadau risg. Dylai ysgolion liniaru'r risgiau yma drwy gyfuniad o fesurau rheoli fel sicrhau hylendid dwylo ac arwynebau, systemau unffordd ac ati.
- Os bydd systemau rhybuddion cynnar yn nodi gwybodaeth am ddigwyddiad neu achos lleol, yna dylai ysgolion cyfagos roi mesurau cyfyngu priodol ar waith.
Bydd pob ysgol yn derbyn cyflenwad o becynnau profi gartref.