Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi paratoi
Cynllun Argyfwng (pdf) (Saesneg yn unig). Mae'n bosibl i'r cynllun yma fynd i'r afael ag argyfyngau o bob math – gan gynnwys argyfyngau mawr, bach neu anghyffredin, o bosibl.
Mae'r Cynllun Argyfwng yn cynnig fframwaith i'w ddefnyddio gan yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans er mwyn ymateb ar unwaith i unrhyw argyfwng mawr a allai ddigwydd y tu mewn i ffiniau'r Fwrdeistref Sirol.
Dogfen gyffredinol yw hon sydd wedi'i pharatoi i fod yn ganllaw ar gyfer ymateb i argyfwng. Rydyn ni'n cydnabod y gall digwyddiadau amrywio'n fawr o ran yr ymateb sydd ei angen a'r effaith ar y gymuned. Bydd yr asiantaethau'n defnyddio eu profiadau a'u gwybodaeth er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng mewn ffordd hyblyg.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Cynllunio ar gyfer Argyfyngau
Tŷ Sardis,
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
Ffôn: 01443 425011
Rhif ffôn y Cyngor y tu allan i oriau'r swyddfa ac mewn argyfwng: 01443 405011