Skip to main content

Sgileffeithiau argyfwng

Beth fydd yn digwydd os bydd argyfwng yn effeithio arnoch chi?

Bydd unrhyw un sydd yn ddigon anlwcus i gael ei anafu yn cael cymorth cyntaf a/neu ei gludo i'r ysbyty. Bydd Cyngor RhCT yn gofalu am y sawl sy'n gorfod gadael eu cartrefi ac sy'n methu mynd at gyfeillion neu deulu; bydd y Cyngor yn agor Canolfannau Gorffwys er mwyn darparu lloches dros dro a darpariaeth sylfaenol o ran bwyd.

Os na fydd modd cyrraedd cartrefi neu os byddan nhw wedi'u hynysu, bydd Cyngor RhCT yn gwneud trefniadau i ddarparu cymorth priodol. Bydd yr ymateb i bob achos yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad a'i faint. Bydd Cyngor RhCT, ar y cyd â'r Awdurdod Iechyd ac asiantaethau eraill, yn cynghori ynghylch y rhan fwyaf o faterion lles. Mewn digwyddiad ar raddfa fawr, mae'n bosibl y bydd canolfan arbenigol yn cael ei sefydlu er mwyn darparu gwasanaeth lles cyffredinol a chwnsela. Dyma gyrff eraill a fydd, o bosibl, yn gallu rhoi cymorth...

  • Awdurdodau Iechyd
  • Adrannau yn y Llywodraeth
  • Gwasanaethau Cyfleustodau
  • Sefydliadau Gwirfoddol