Mae RCTCBC yn cynllunio, profi ac yn hyfforddi staff i sicrhau bod gennym y trefniadau a'r gweithdrefnau cywir i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau neu argyfyngau mawr

Mae adran Cynllunio ar gyfer Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynllunio ac yn rhoi cynlluniau ar brawf, mae hefyd yn hyfforddi staff i sicrhau bod y trefniadau a'r gweithdrefnau cywir ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw ddigwyddiadau neu argyfyngau mawr sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau brys, y GIG, cwmnïau trafnidiaeth a chyfleustodau i ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer argyfyngau, yn seiliedig ar Gofrestr Risgiau Cymunedol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De, i sicrhau ymateb effeithiol i ddigwyddiadau sy’n argyfyngau a chadw cymunedau'n ddiogel.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio’n agos â phartneriaid megis yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans, cyrff iechyd, yr Awdurdod Glo a Llywodraeth yn rhan o ymateb amlasiantaeth mewn argyfwng, a hynny er mwyn sicrhau ymateb wedi’i gydlynu ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Fel arfer, bydd RhCT yn agor ei Ystafell Rheoli Argyfyngau i reoli'r digwyddiad ac yn gwahodd partneriaid amlasiantaeth i gefnogi'r ymateb.

Mewn ymateb amlasiantaeth i argyfwng, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans, cyrff iechyd, yr Awdurdod Glo a Llywodraeth Cymru i gydlynu ymdrechion a diogelu'r cyhoedd. Mae'n debygol y bydd RhCT yn agor ei ystafell reoli mewn argyfwng er mwyn rheoli'r digwyddiad ac yn gwahodd partneriaid amlasiantaeth i fod yn rhan ohoni.

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad - Ty Elai Emergency Control Room Dinas Isaf East CF40 1NY