Skip to main content

Sut mae paratoi ar gyfer argyfwng

Cyn

  • Gwiriwch fod eich cartref wedi'i yswirio'n briodol a bod popeth rydych chi am iddo fod wedi'i yswirio, wedi'i gynnwys yn yr yswiriant
  • Gofalwch fod eich eiddo mewn cyflwr da. Dysgwch sut mae diffodd eich cyflenwadau dŵr, trydan a nwy a ble mae gwneud hynny  
  • Paratowch becyn argyfwng
  • Paratowch gynllun argyfwng ar gyfer y cartref

Yn ystod

  • Ffoniwch 999 os oes person mewn perygl, wedi'i anafu neu os oes perygl i fywyd
  • Peidiwch â rhoi'ch hun, nag eraill, mewn perygl
  • Gwiriwch a ydych chi, neu eraill, wedi cael anaf; gwiriwch eich hun yn gyntaf
  • Byddwch yn effro i unrhyw bobl agored i niwed y gallai fod arnyn nhw angen eich cymorth
  • Byddwch yn barod i adael eich cartref a dilyn cyfarwyddiadau
  • Byddwch yn barod i fynd i mewn i'ch cartref, aros yno, a gwrando ar orsafoedd teledu a radio lleol

 

Cymorth a Chefnogaeth

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun. Bydd cymorth ar gael gan y Cyngor a sefydliadau sy'n elusennau.

Os yw argyfwng wedi effeithio arnoch chi neu'ch teulu, bydd modd i ni roi cymorth i chi drwy:

  • canolfannau cymorth
  • llinell gymorth
  • gwasanaethau ar y we

Daw rhagor o wybodaeth wedi i ddigwyddiad ddigwydd.