Skip to main content

Tirlithriadau / tir yn symud

Arwyneb tir yn symud

Mae tir yn symud yn beth sy'n digwydd yn naturiol yng Nghymoedd y De yn sgil y dirwedd serth, daeareg haenog a'r lefel uchel o law sy'n disgyn. Mae tirlithriadau wedi digwydd yma erioed; yn aml wedi'u hachosi gan law trwm, lefelau o ddŵr daear yn newid, neu erydu graddol

I gael rhagor o wybodaeth a chofnodion manwl, ewch i dudalen The National Landslide Database 

Tomenni Glo yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn gartref i nifer o domenni glo glofeydd nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio bellach, treftadaeth cloddio am lo gyfoethog y rhanbarth.  Mae'r Cyngor yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal a chadw'r tomenni yma er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd a sicrhau sefydlogrwydd amgylcheddol.  Yn rhan o hyn mae archwiliadau rheolaidd, asesiadau risg, a gwaith cynnal a chadw megis gwelliannau i systemau draenio a rheoli llystyfiant.

Serch hynny, nid RhCT sy'n berchen ar bob tomen lo sydd yng nghymoedd y de. Mae rhai yn gyfrifoldeb:

  • Perchnogion tir preifat
  • Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio
  • Cyrff cyhoeddus eraill

Mae pob perchennog yn gyfrifol am fonitro cyflwr ei domenni ei hun, gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol, a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o ansefydlogrwydd.  Mae Rhondda Cynon Taf yn gweithio ar y cyd â'r rhanddeiliaid yma i ofalu bod dull cydweithredol ar waith o ran diogelwch tomenni ledled y fwrdeistref sirol.

Dolenni Defnyddiol

Rhoi gwybod am Dirlithriad neu Bryder ynghylch Tomen Lo

Os byddwch chi'n gweld tirlithriad yn digwydd neu'n amau bod y tir yn symud ger tomen lo:

  • Ffoniwch 999 ar unwaith os oes perygl i fywyd neu eiddo.
  • Cysylltwch â Chyngor Rhondda Cynon Taf:
  • Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid:  01443 425001 (Dydd Llun – Dydd Gwener, 8.30am – 5.00pm)
  • Llinell Argyfyngau (y tu allan i oriau'r swyddfa): 01443 425011
  • O ran peryglon yn ymwneud â glofeydd yn unig, ffoniwch yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio ar 0800 288 4242

Wrth roi gwybod, cofiwch esbonio:

  • Ymhle yn union mae'r lleoliad (cyfeiriad, lleoliad What3Word neu dirnodau sydd gerllaw)
  • Dyddiad ac amser y digwyddiad
  • Disgrifiad o'r hyn a weloch chi (e.e craciau, symudiad, llifogydd)
  • Ffotograffau neu fideos os yw'n ddiogel i chi dynnu’r rhain
  • Eich manylion cyswllt er mwyn cysylltu â chi ar ôl y digwyddiad