Skip to main content

Mathau o Argyfyngau

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o argyfyngau posibl. Serch hynny, natur argyfyngau yw ei bod yn anodd eu rhagweld, ac mae'n bosibl iddyn nhw ddigwydd heb rybudd. Does dim modd i ni warantu ein bod wedi cynnwys pob argyfwng posibl. Gofalwch, bob amser, eich bod wedi paratoi ar gyfer argyfwng, gan geisio'r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn gofalu'ch bod yn ddiogel mewn unrhyw sefyllfa.

Mae'r rhestr yma wedi'i llunio at ddibenion rhoi gwybodaeth ynghylch y canlynol, ond nid y canlynol yn unig: 

Perygl Llifogydd

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch perygl llifogydd, ewch i'n tudalen perygl llifogydd, yma

Tirlithriadau a tir yn symud

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch perygl tirlithriadau yn RhCT, ewch i'n tudalen perygl tirlithriadau, yma

Tywydd garw

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch tywydd garw, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yma

Tân

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch perygl tân, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yma 

Clefydau / pandemigau

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch clefydau heintus, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yma

Y Gofrestr Risg Cymunedol

Mae Cofrestr Risg Cymunedol De Cymru yn ddogfen sydd wedi'i chreu gan Fforwm Cydnerthedd Lleol De Cymru er mwyn helpu'r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer argyfyngau posibl. Mae pob risg yn cael ei hasesu ar sail pa mor debygol yw o ddigwydd a pha mor ddifrifol y gallai'r effaith fod. Mae'r gofrestr yn gymorth i sefydliadau gynllunio eu hymateb a rhoi pethau yn nhrefn blaenoriaeth o ran yr ymateb hwnnw, a chydlynu ymdrechion o ran diogelu pobl, eiddo a'r amgylchedd. 

Mae modd gweld cofrestr risg cymunedol Fforwm Cydnerthedd Lleol De Cymru, yma