Yn dilyn proses ymgynghori â thrigolion, cyflwynodd y Cyngor Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae'r gorchymyn yn rhoi rheolau baw cŵn newydd ar waith yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r Gorchymyn yn nodi bod:
- RHAID i berchenogion cŵn godi baw cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
- RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
- RHAID i berchenogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
- Cŵn wedi cael eu GWAHARDD o ysgolion, mannau chwarae i blant a chaeau chwarae wedi'u marcio sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor.
- RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg ym mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.
Mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) hefyd yn caniatáu i Swyddogion Gorfodi roi dirwy uwch o £100.
Cafodd gorchymyn arall, sy'n unigryw i Barc Aberdâr, hefyd ei gyflwyno ar 1 Hydref 2017. Mae'r gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg yn y parc.
Mae’r Cyngor yn ymroi i helpu perchnogion cŵn i wneud y peth iawn gan ddarparu biniau penodol mewn parciau lleol a mannau eraill bydd pobl yn eu defnyddio'n rheolaidd i fynd â'u ci am dro. Os nad oes bin baw cŵn na bin sbwriel ar hyd eich taith, eich cyfrifoldeb chi yw codi’r gwastraff a mynd ag ef adre gyda chi. Mae bagiau addas i’w cael am ddim ymhob llyfrgell a Chanolfannau iBobUn ledled y Fwrdeistref Sirol.
Bydd Rhys Cycle yn ymweld ag ysgolion Rhondda Cynon Taf yn rheolaidd gyda charfan Gorfodi Gofal y Strydoedd a Chodi Ymwybyddiaeth y Cyngor. Maen nhw’n pwysleisio’r peryglon ynghylch baw cŵn. Byddwch chi’n gweld posteri baw cŵn ledled y sir sy’n rhybuddio perchnogion cŵn o’r canlyniadau pe baen nhw ddim yn codi baw eu cŵn.
Mae gan Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd hawl i roi hysbysiad cosb benodedig o £100 i chi yn y fan a’r lle am bob trosedd sy’n ymwneud â baw cŵn.
Cwestiynau Cyffredin
Pwy sy'n gallu cael dirwy?
O dan y rheoliadau, gall y person sydd â gofal dros yr anifail adeg y baeddu gael y ddirwy o £100 os na fydd yn codi’r baw yn syth ar ôl i’r anifail faeddu.
Sut mae talu'r gosb?
Bydd modd ichi dalu ar-lein gyda cherdyn credyd / debyd.
Talu â siec neu archeb bost, yn daladwy i: ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf’, a'i hanfon at: Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Glantaf, Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5TT.
Os fydda i ddim yn talu, beth fydd yn digwydd?
Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig gan un o Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd a Chodi Ymwybyddiaeth y Cyngor, bydd gofyn i chi, yn unol â thelerau’r gosb, dalu’r ddirwy o fewn 14 diwrnod o gyhoeddi’r hysbysiad.
Os byddwch chi’n dewis peidio â thalu’r ddirwy o fewn yr 14 diwrnod, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â threfniadau i’ch erlyn drwy achos llys fel rhan o bolisi’r Awdurdod i wella’r amgylchedd ac i leihau trosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf.