Skip to main content

Cyngor ar Effeithlonrwydd Ynni

Cyngor ar effeithlonrwydd ynni i gefnogi trigolion i gadw eu cartrefi'n gynnes trwy gydol y flwyddyn.

Mae effaith yr argyfwng costau byw yn golygu bod llawer yn rhagor o bobl yn wynebu trafferthion o ran talu biliau ynni sy'n hanfodol er mwyn gallu cadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref am bris fforddiadwy tra'n rheoli biliau pwysig eraill.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan hyn oherwydd newid yn eich amgylchiadau ariannol neu gyflwr iechyd sy'n cael effaith arnoch chi, neu os ydych chi'n awyddus i arbed arian ar filiau ynni neu leihau eich ôl troed carbon, mae modd i ni gynnig cyngor diduedd i drigolion RhCT am ddim. 

Mae modd i ni roi'r cymorth canlynol i chi;

  • Cymorth i fanteisio i'r eithaf ar eich incwm er mwyn sicrhau bod biliau ynni'n fwy fforddiadwy
  • Lleihau'r ynni rydych chi'n ei ddefnyddio er mwyn lleihau'ch biliau neu'ch helpu chi i ddod o hyd i dariff rhatach
  • Cymorth o ran lleihau ôl troed carbon eich cartref

Gwasanaethau Hwb

Mae ein Gwasanaeth Gwresogi ac Arbed yn dal i ddarparu cyngor a chymorth mewnol, ac mae modd i staff eich cyfeirio (gyda'ch caniatâd) at asiantaethau partner sy'n darparu gwasanaethau eraill.

Cysylltwch â ni os ydych chi'n chwilio am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r canlynol;

  • Grantiau neu fenthyciadau ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn eich cartref
  • RCT Switch - Cyngor diduedd ac am ddim ynglŷn â newid tariff
  • Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni er mwyn arbed ynni yn y cartref
  • Cofrestri o wasanaethau sydd â blaenoriaeth
  • Cymorth gyda dyledion o ran cyfleustodau (nwy, trydan a dŵr)
  • Atgyfeiriadau o ran;
    • Cyflenwyr ynni i gael cymorth pellach gyda chaledi ariannol, problemau gyda theclynnau talu ymlaen llaw a pharhad gwasanaeth
    • Cyngor ar Bopeth (dyled, budd-daliadau a gwasanaethau cyngor i ddefnyddwyr)
    • Yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio
    • Cynllun NYTH Llywodraeth Cymru
    • Gwasanaeth Parseli neu Fanciau Bwyd
    • Presgripsiynau
    • Mynediad at gofrestri o wasanaethau sydd â blaenoriaeth

Mae modd dod o hyd i restr o'n holl wasanaethau yn y tudalenau perthnasol. 

Cyllid ychwanegol sydd ar gael 

Ffynonellau cyngor ychwanegol

  • Mae gwefannau cymharu ynni megis Uswitch, Compare the Market neu Money Super Market ar gael i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r darparwr ynni rhataf i chi.
  • Os oes gyda chi ddiddordeb mewn lleihau eich effaith amgylcheddol holwch eich darparwr cyfleustodau am Dariffau Gwyrdd sy'n defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Mae hefyd modd gofyn i'r darparwr cyfleustodau am dariffau cymdeithasol sydd ar gael er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn manteisio ar y cyfraddau ynni rhataf sydd ar gael.  

Nodwch, y gwres ac Arbed ar hyn o bryd yn gweld cynnydd yn y galw am y grant, mae'n bosibl y bydd hyn yn achosi peth oedi wrth ymateb.

Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ac yn diolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod yma.

Os ydych chi heb wres a/neu angen cymorth ar frys, efallai bydd modd i asiantaethau eraill eich helpu chi;

Local Energy Advice Partnership Cynllun Boeler LEAP | LEAP (applyforleap.org.uk)  Rhif ffôn: 0800 060 7567

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni; Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru - Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Rhif ffôn: 0808 808 2244

Cyngor ar Bopeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf (carct.org.uk) Rhif ffôn: 01443 409284    

Cyngor Ynni Gofal a Thrwsio careandrepair.org.uk/cy/agencies/care-repair-cwm-taf/  Rhif ffôn: 01443 755696

Cysylltwch â'n Swyddog Ynni Tai:-
Ffôn: 01443 281136

     

UK GOV_WALES_660_MASTER_DUAL_AWLU logo - English
Tudalennau Perthnasol