Skip to main content

Grantiau Paneli Solar

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi preswylwyr i wneud eu cartrefi yn fwy ynni effeithlon er mwyn lleihau biliau trydan ac allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn cyflawni hyn mae'r Cyngor yn cynnig grant i helpu â'r broses o brynu paneli solar a'u gosod.

Mae panel ffotofoltäig (FFF) solar yn cynhyrchu trydan trwy ddal ynni’r haul a'i droi’n drydan. Does dim angen golau uniongyrchol yr haul ar y celloedd iddyn nhw weithio, maen nhw hyd yn oed yn gallu gweithio ar ddiwrnodau cymylog. Mae paneli FFF solar fel arfer yn cael eu gosod ar do eich tŷ a byddan nhw’n cynhyrchu trydan adnewyddadwy gan eich helpu i leihau’ch allyriadau carbon, yn ogystal ag arbed arian ar eich biliau trydan.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw paneli FFF solar yn addas ar gyfer eich amgylchiadau neu eich cartref, cysylltwch â'n Swyddogion Ynni Tai, Gwresogi ac Arbed, fydd yn gallu darparu gwybodaeth bellach.

Mae modd gweld gwybodaeth gyffredinol bellach ar baneli FFF solar, eu harbedion ariannol posibl a gwaith cynnal a chadw cyfredol ar www.energysavingtrust.org.uk/advice/solar-panels

Meini Prawf Cymhwysedd

  • Rhaid i'r eiddo fod yn Rhondda Cynon Taf
  • Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais fod yn berchennog-feddiannwr ar yr eiddo (does dim rhaid i ymgeiswyr dderbyn budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd neu beidio â chyrraedd trothwy incwm neu gynilion).

Beth sydd angen i chi ei wybod

Bydd ymgeiswyr posibl sy'n bodloni'r meini prawf yn cael eu hystyried am grant fydd yn cyfrannu at gost prynu paneli solar a'u gosod. Bydd hyn yn ddibynnol ar yr amodau canlynol:

  • Byddwch chi'n derbyn hyd at 25% o gost prynu paneli solar a'u gosod (bydd hyn wedi'i gyfyngu i £1,000)
  • Rhaid i berchennog yr eiddo dalu unrhyw gostau ychwanegol (mae modd gwneud hyn trwy geisio cymorth pellach megis benthyciadau neu gymorth grant yn amodol ar gymhwysedd).
  • Bydd unrhyw waith sydd wedi'i gwblhau cyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys ar gyfer y grant.
  • Bydd taliad grant ond yn cael ei ryddhau unwaith bod anfoneb am y gwaith wedi'i dderbyn a'r ffurflen caniatad grant wedi'i gwblhau

Sut mae gwneud cais?

Gwiriwch eich cymhwysedd a chyflwyno cais ar-lein

Mi fydd angen cynnwys y wybodaeth ganlynol cyn gellir cymeradwyo'r cais:

  • Tystiolaeth o berchnogaeth (morgais, gweithredoedd eiddo ac ati)
  • Dyfynbris am y gwaith

Os nad oes gennych dystiolaeth i broi ei'ch perchnogaeth, cysylltwch â'r Garfan Gwresogi ac Arbed

Cymorth i ddod o hyd i osodwr

I'ch helpu i ddod o hyd i osodwr addas gallwch edrych ar rhestr o Osodwyr Achrededig MCS am  osodwyr lleol. 

Mae gan y Cyngor 'Rhestr o Ddarparwyr Profedig' ble all osodwyr lleol ymgeisio i fod yn rhan o restr y cyngor ar gyfer cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni yn RhCT i helpu drigolion i ddod o hyd i osodwyr cofrestredig addas.

Y contractwr a ddewisir yw dewis perchennog y cartref ac mi fydd y holl gytunebau rhwng perchennog y cartref a'r gosodwr, nid y cyngor

Cysylltu â ni

Y Garfan Gwresogi ac Arbed

Ffôn: 01443 281136

 

Levelling up logo