Skip to main content

Grantiau Gwella Cartrefi

Mae grantiau adnewyddu ond ar gael mewn amgylchiadau eithriadol lle bo'ch eiddo yn cael ei ystyried yn berygl i iechyd, diogelwch a lles y preswylydd neu'r cyhoedd.         

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried ar gyfer eiddo sydd wedi'i adeiladu dros 10 mlynedd yn ôl, lle mae perchennog y tŷ yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd:

  • mae'r unigolyn wedi perchen ar yr eiddo a byw ynddo am o leiaf pum mlynedd cyn cyflwyno'r cais,
  • mae'r unigolyn yn derbyn budd-dal â phasbort ac yn gymwys i dderbyn gostyngiad o 100% ar Dreth y Cyngor,
  • rhaid i'r ecwiti sydd ar gael yn yr eiddo beidio â bod yn fwy na 25% o werth yr eiddo.

O ganlyniad i hyn, mewn amgylchiadau lle:                 

bod iechyd a diogelwch y meddiannydd, neu feddiannydd eiddo cyfagos, neu'r cyhoedd yn gyffredinol, mewn perygl; neu                  

bod posibilrwydd y gallai oedi wrth ddelio â'r diffyg arwain at ddirywiad sylweddol yn adeiladwaith yr adeilad, er enghraifft, gwaith dymchwel strwythurol:

Os mai gwaith adnewyddu yw'r cam gweithredu mwyaf priodol, fe fydd y Cyngor yn ystyried cymeradwyo’r cais am gymorth er mwyn unioni'r diffyg.

Os dydy perchennog y tŷ ddim yn bodloni'r meini prawf uchod, fydd y Cyngor ddim yn ei ystyried ar gyfer Cymorth Grant Adnewyddu.

Dydy landlordiaid a thenantiaid ddim yn gymwys i dderyn Cymorth Grant Adnewyddu.

Fydd eiddo gwag ddim yn cael ei ystyried ar gyfer Grant Adnewyddu.

Pa waith sy'n cael ei gynnwys yn y cynllun?               

Gwaith atgyweirio hanfodol i adeiledd allanol yr annedd, h.y. i'w wneud yn ddiogel rhag gwynt/tywydd er mwyn sicrhau bod modd byw yn yr eiddo yn ddiogel ac yn gyfforddus. Gallai'r gwaith gynnwys cyfleusterau ystafell ymolchi, cwrs atal lleithder, lloriau concrid, ail-blastro, ail-wifro, a gwaith atgyweirio plymwaith.              

Bydd cymorth yn cael ei ystyried er mwyn mynd i'r afael â diffygion strwythurol yn ogystal â gwaith cysylltiedig, ynghyd â thrin achosion difrifol o bydredd sych sy'n weithredol a chynyddol sy'n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd strwythurol yr eiddo.

Fyddwn ni ddim yn rhoi cymorth ar gyfer gwaith y tu allan i'r eiddo, gan gynnwys ailadeiladu waliau cynnal.

Beth ydy uchafswm y grant sydd ar gael?                

£35,000, ynghyd â ffioedd ategol, yw uchafswm y cymorth grant sydd ar gael ar gyfer Cymorth Grant Adnewyddu Llawn.   

Amodau Grant

Rhaid i ymgeisydd y grant barhau'n berchennog a byw yn yr eiddo. Bydd rhaid ad-dalu cyfanswm y cymorth grant i'r Cyngor os bydd y perchennog yn gwerthu, trosglwyddo neu gael gwared ar yr eiddo, neu os ydy'r perchennog yn rhoi’r gorau i feddiannu'r Eiddo fel ei unig gartref.

Rhaid i'r ymgeisydd gytuno i ffi Cofrestrfa Tir a fydd yn cael ei godi ar yr eiddo mewn perthynas â'r amodau ad-dalu uchod.

Rhaid i'r ymgeisydd gwblhau'r gwaith adnewyddu o fewn deuddeg mis o ddyddiad cafodd y grant ei gymeradwyo'n ffurfiol. Os dydy'r gwaith ddim yn cael ei gwblhau o fewn y terfyn amser, bydd y grant yn cael ei ganslo.

Cysylltu â ni: 

Grantiau Tai

Grantiau Tai

Llawr 2, 2 Llys Cadwyn

Pontypridd

CF37 4TH

Ffôn: 01443 281118