Skip to main content

Dewisiadau tai

Tai Cymdeithasol

Mae pob Tŷ Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf yn eiddo i Gymdeithasau Tai sy'n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf.

Rhaid i unigolion sydd â diddordeb mewn ymgeisio am dai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf gofrestru â CeisioCartrefRhCT a chwblhau ffurflen gais.

Mae bron i 5,000 o aelwydydd sydd wedi’u cofrestru â CeisioCartrefRhCT ar hyn o bryd gyda 1100 o eiddo yn cael eu dyrannu fesul blwyddyn ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu nad oes modd i ni gynnig cartref i’r rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud cais am dŷ trwy restr aros CeisioCartrefRhCT, ac mae’r rheiny sy’n cael cynnig tŷ yn debygol o fod wedi aros am amser hir i gael eu hailgartrefu. 

Yn anffodus, mae'r galw am eiddo, yn enwedig llety ag un ystafell wely, yn sylweddol uwch na'r nifer sydd ar gael. O ganlyniad i'r prinder eithafol o dai cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Rhestr Aros am Dai yn hir iawn ac mae’n bosibl na fyddwch chi'n cael cynnig eiddo cymdeithas dai. Weithiau mae rhaid i bobl y mae angen brys am dŷ arnyn nhw aros am amser hir cyn cael eiddo ac mae’n annhebygol y bydden nhw’n cael cynnig eiddo yn yr ardal o’u dewis.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth am amseroedd aros am eiddo drwy CeisioCartrefRhCT ar gyfartaledd, ar wefan CeisioCartrefRhCT.

Os ydych chi'n byw mewn eiddo Cymdeithas Dai yn barod efallai gallech chi ystyried cydgyfnewid eich eiddo gyda deiliad contract arall sy'n byw mewn eiddo Cymdeithas Dai.  Er mwyn ymgeisio i gydgyfnewid, rhaid i chi gofrestru gyda www.homeswapper.co.uk, mae modd i'ch swyddog tai ddarparu cyngor os oes angen cymorth arnoch chi.

Efallai y byddwch chi hefyd eisiau ystyried opsiynau tai eraill megis prynu eiddo a llety rhent preifat.  Rhagor o wybodaeth isod:

Perchen ar Eiddo

Os hoffech chi brynu eich tŷ eich hun, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CeisioCartrefRhCT Perchen ar dŷ - CeisioCartrefRhCT. Mae’n nodi beth mae angen i chi ei ystyried cyn prynu eich eiddo, gan gynnwys dolenni i wefannau defnyddiol gyda chyfrifianellau morgais er mwyn cael gwybod beth sy'n fforddiadwy i chi yn seiliedig ar eich incwm.

Mae modd i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddarparu cymorth i brynwyr tro cyntaf, gan gynnig tai newydd sbon am bris fforddiadwy drwy ein cynllun Homestep. Mae rhagor o wybodaeth am gynllun Homestep y Cyngor ar gael yma Homestep | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Eiddo Rhent Preifat - dolenni gwe defnyddiol allai fod o gymorth i chi ddod o hyd i ddewisiadau llety addas yn y sector rhentu preifat:

www.primelocation.com

www.spareroom.co.uk

www.onthemarket.com

www.gumtree.com

www.roomies.co.uk

www.housesforsaletorent.co.uk

www.nestoria.co.uk

www.newsnow.co.uk

www.rightmove.co.uk

www.placebuzz.com

www.homes.trovit.co.uk

www.zoopla.co.uk

Os ydych chi'n ddigartref neu'n wynebu digartrefedd, cysylltwch â Gwasanaeth Materion Tai'r Cyngor drwy e-bostio Digartrefedd@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 495188. Efallai bydd modd iddo ddarparu cymorth pellach i chi ddod o hyd i gartref addas yn y sector rhentu preifat.
Cyfraddau Lwfans Tai Lleol - Dyma gyfraddau y mae’n bosibl bod modd i chi eu hawlio ar gyfer costau tai os ydych chi'n derbyn budd-daliadau neu incwm cymwys. 

Nifer yr ystafelloedd

Merthyr Tudful / Cwm Cynon – Bob Wythnos

Merthyr Tudful / Cwm Cynon – Bob Mis Calendr (Credyd Cynhwysol)

Merthyr Tudful / Cwm Cynon – Bob Mis Lleuad (Hawl i Dderbyn Budd-daliadau Tai)

Taf-elái / Cwm Rhondda – Bob Wythnos

Taf-elái / Cwm Rhondda – Bob Mis Calendr

(Credyd Cynhwysol)

Taf-elái / Cwm Rhondda – Bob Mis Lleuad

(Hawl i Dderbyn Budd-daliadau Tai)

Wedi'i rannu

 

 

£54.00

£234

£216

£54.00

£234

£216

1 Ystafell Wely

 

 

£77.10

£334.10

£308.40

£75.00

£325

£300

2 Ystafell Wely

 

 

 

£86.30

£373.96

£345.20

£92.05

£398.88

£368.20

3 Ystafell Wely

 

 

 

£97.81

£423.84

£391.24

£98.96

£428.82

£395.84

4 Ystafell Wely

 

 

 

£149.59

£648.22

£598.36

£136.93

£593.36

£547.72