Mae’r strategaeth hon yn nodi blaenoriaethau strategol Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a’i asiantaethau partner ar gyfer atal a lliniaru digartrefedd ynghyd â darparu gwasanaethau cymorth tai dros y 4 blynedd nesaf (2022-26).
Blaenoriaethau Strategol
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu’r Rhaglen Cymorth Tai a’r Gwasanaethau Atal a Lliniaru Digartrefedd wedi’u llywio gan asesiad o anghenion lleol a rhanbarthol ynghyd ag ymgysylltiad â
rhanddeiliaid. Mae hefyd wedi cael ei lywio gan ofynion polisïau ehangach ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol megis y symudiad i ailgartrefu cyflym a’r hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19.
Blaenoriaeth Strategol 1
Cryfhau’r gwasanaethau atal ac ymyrryd yn fuan a’r cymorth arbenigol a roir i rwystro digartrefedd
Blaenoriaeth Strategol 2
Sicrhau bod pobl sy'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn cael mynediad i'r cartref iawn ar yr amser iawn ac yn y lle iawn, yn rhan o'n dull Ailgartrefu Cyflym
Blaenoriaeth Strategol 3
Rhoi cymorth o ansawdd uchel i bobl sy'n ddigartref neu sydd o bosibl yn mynd i ddod yn ddigartref, gan ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i'r eithaf a sicrhau cydweithio effeithiol rhwng gwahanol asiantaethau
Blaenoriaeth Strategol 4
Cydweithio i roi cymorth cyfannol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag ymyriadau arbenigol effeithiol pan fo angen