Mae Cysylltu â Gwaith yn rhaglen cyflogaeth â chymorth gwirfoddol. Mae'n cael ei chyflwyno gan hyfforddwyr cymwys mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol i gefnogi pobl anabl, y rhai â chyflyrau iechyd a'r rhai sydd â rhwystrau cymhleth i symud i fyd gwaith a chadw swydd. Mae hefyd yn cefnogi pobl sydd mewn perygl o golli eu swydd oherwydd yr heriau maen nhw'n eu hwynebu. Bydd cyflogwyr hefyd yn cael eu cefnogi i gyflogi cyfranogwyr.
Tudalen gwybodaeth i ymgesiwyr
Mae Cysylltu â Gwaith yn wasanaeth am ddim i'ch helpu chi i ddod o hyd i swydd sy'n addas ar eich cyfer chi neu i gadw'ch swydd bresennol!
Rydyn ni'n deall bod pobl yn wynebu heriau o ran gwaith.
Mae hyn yn gallu bod oherwydd bod gyda chi anabledd neu gyflwr iechyd.
Efallai eich bod chi'n ddigartref, yn gofalu am rywun arall, yn gyn-filwr, yn ffoadur, yn berson sy'n gadael gofal neu'n gyn-droseddwr.
Neu efallai eich bod chi'n cael trafferth gyda materion cymhleth, fel camddefnyddio sylweddau neu drais domestig.
Cliciwch yma i wneud cais am gymorth a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn bo hir.
Sut mae modd i ni eich helpu chi?
- Byddwn ni'n eich helpu i ddod o hyd i swydd addas drwy ganolbwyntio ar eich cryfderau.
- Byddwn ni'n dod o hyd i swydd â chyflog yn gyflym ac yn eich helpu chi i gadw eich swydd.
- Byddwn ni'n eich cefnogi chi os ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd ac yn cael trafferth cadw'ch swydd.
- Byddwn ni'n gweithio gyda chyflogwr i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cymorth sydd ei angen arnoch.
- Byddwn ni'n cydweithio'n agos â charfanau iechyd i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael cymorth cydlynol ar gyfer eich iechyd, eich lles a'ch swydd.
Anfonwch e-bost at workandskills@rctcbc.gov.uk am gymorth a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn bo hir. Fel arall, ffonio 01443 425761
Tudalen gwybodaeth i fusnesau
Rydyn ni'n gallu eich helpu chi i greu gweithlu cryfach a mwy cynhwysol, boed hynny trwy lenwi swydd wag neu roi cymorth i rywun sydd eisoes yn eich carfan.
Mae modd i ni:
- Eich paru ag ymgeiswyr sy'n barod ac yn awyddus i weithio.
- Rhoi cymorth un-i-un i chi a'ch gweithwyr newydd i'w helpu i ymgartrefu a llwyddo.
- Cynnig cyngor ac arweiniad ar addasiadau rhesymol ac arferion cynhwysol.
- Cefnogi staff presennol a allai fod yn ei chael hi'n anodd aros yn y gwaith oherwydd problemau iechyd neu heriau personol.
- Lleihau costau recriwtio drwy eich helpu chi i ddod o hyd i'r person cywir.
E-bostiwch workandskills@rctcbc.gov.uk i gysylltu.
Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau cymorth
Os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd angen cymorth i ddod o hyd i gyflogaeth neu i gadw swydd, rydyn ni'n gallu helpu.
P'un a ydych chi'n weithiwr gofal, yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn elusen neu'n weithiwr cymorth arall, cysylltwch â ni.
Rydyn ni'n gweithio gydag oedolion sydd:
- Yn byw â chyflwr iechyd, yn anabl neu’n wynebu heriau personol eraill sy'n rhwystrau i weithio
- Eisiau dod o hyd i swydd
- Yn cael trafferth aros yn eu swydd oherwydd eu hiechyd neu broblemau personol
- Chwilio am gefnogaeth un-i-un.
Mae modd i ni:
- Cwrdd â phobl ar-lein, yn eu cartref, yn eu gweithle neu leoliad cymunedol arall
- Paru nhw â swydd sy'n bodloni eu diddordebau a'u hanghenion
- Gweithio ochr yn ochr â charfanau iechyd i ddarparu cymorth cydlynol
- Cefnogi pobl sy'n gweithio i'w helpu i ffynnu
- Gwirio opsiynau cymorth eraill o fewn y Garfan Gwaith a Sgiliau os dydy'r Rhaglen Cysylltu â Gwaith ddim yn addas i chi.
Rydyn ni'n gobeithio bod modd i'r rhaglen Cysylltu â Gwaith eich helpu chi. Ond, os ydy hi'n anaddas i chi, edrychwch ar y dudalen
Carfan Gwaith a Sgiliau am ragor o wybodaeth am sut gallwn ni'ch helpu chi. Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, mae modd inni gynnig llawer o wasanaethau cymorth a chefnogi i chi, gan gynnwys hyfforddiant, cymwysterau, cymorth un-i-un, a rhagor.