Skip to main content

Hyfforddiant

Hoffech chi ymgymryd â hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau newydd i'w rhoi ar eich CV? 

Mae ystod o gyfleoedd hyfforddi ar gael i'r rhai sydd eisiau datblygu sgiliau newydd neu'r rheiny sydd eisiau ennill cymhwyster y bydd o gymorth i chi wrth ddod o hyd i swydd newydd. 

Mae modd i chi wirio manylion y cyrsiau hyfforddiant am ddim sy'n cael eu cynnal yn eich ardal chi yma. Cliciwch ar y PDF yn y golofn ‘Ardal’ i lawrlwytho’r amserlen.

Ardal

Cyrsiau sydd ar gael

Goggled Cwm Rhondda

Diogelwch Bwyd Lefel 2, Cymorth Cyntaf Lefel 3,  Cymorth Cyntaf Paediatrig Lefel 3, Chwilio am swydd ar-lein Lefel 1,Ymwybyddiaeth am alergenau bwyd Lefel 2, de-fib, Magu Hyder Lefel 1, 

De Cwm Rhondda

Digidol Gyda'n Gilydd, Technegau Cyfweld a Gweithdai CV, Diogelwch Bwyd Lefel 3, Cymorth Cyntaf Lefel 3, Cymorth Cyntaf Pediatrig Lefel 3,

Cwm Cynon 

Technegau Cyfweliad, Digidol Gyda’n Gilydd, Hylendid Bwyd Lefel 2, Cymorth Cyntaf Lefel 3, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Magu Hyder, Sgiliau Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Iechyd a Diogelwch, Codi a Chario, Sgiliau Cydnerthedd, Hylendid Bwyd, 

Taf

Cyfweliad Efelychiedig, Lefel 2 Diogelwch Bwyd, Lefel 3 Cymorth Cyntaf Pediatrig, Sgiliau Cyfweliad, Lefel 1 Iechyd a Diogelwch, Gwasanaeth Cwsmeriaid mewnManwerthu, Cwrs Hyder, Cwrs Gwydnwch, TG Sylfaenol, Cwrs hunan-hyder, 

Sgiliau Byw 

Gwella'ch sgiliau digidol a'ch sgiliau sylfaenol, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Dechrau gwirfoddoli a gwella'ch hyder, eich lles corfforol a'ch lles meddyliol. 

Hyfforddiant Penodol i'r Sector Gwaith   

Hyfforddiant wedi'i achredu gyda chysylltiadau i gyflogwyr. Byddwch chi'n sicr o gael cyfweliad ar ôl cwblhau'r cyrsiau. 

Mae'r sectorau'n cynnwys: 

 

 Gweinyddu

 

Mae cyrsiau'n cael eu cynnal ar sail anghenion ac yn gyffredinol maen nhw'n trin a thrafod Microsoft Office, cyfathrebu, rheoli amser a mwy.  Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

 

Gofal Plant

 

Rydyn ni'n cydweithio â charfan Gofal Plant RhCT i gynnig sesiwn dewis gofal plant a hyfforddiant sy’n benodol i'r sector. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

 

Garddwriaeth 

 

Mae'r cyrsiau'n cynnwys torri glaswellt, strimio a defnyddio llif gadwyn – ac maen nhw'n cael eu cynnal yn unol ag anghenion y farchnad lafur. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

 

Hamdden

 

Gan gydweithio â Gwasanaethau Hamdden RhCT, mae'r cyrsiau'n gallu cynnwys Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau (NPLQ) a chymwysterau ffitrwydd. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

 

Manwerthu

 

Hyfforddiant penodol i'r sector sy'n gysylltiedig â phrofiad gwaith gyda chyflogwyr lleol.  Mae'r hyfforddiant yn cynnwys gwasanaethau i gwsmeriaid, diogelwch bwyd a llawer yn rhagor. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

 

Trafnidiaeth

 Mae hyfforddiant ar gyfer y sector yma'n gallu cynnwys Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i yrwyr, cerbydau nwyddau trwm a thrwyddedau tacsi. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Gofal

 Hyfforddiant sy’n cael ei gynnal yn bennaf gyda gwarant o gyfweliad. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ymwybyddiaeth o ddementia, cydsyniad i gyfrinachedd a chymorth gyda gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Adeiladu

 Hyfforddiant Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu ac Iechyd a Diogelwch sy’n cael ei gynnal ar sail fisol. Yn dibynnu ar anghenion llafur, mae modd i ni hefyd gynnig hyfforddiant 360, gyrru lori godi a rholer, gyrru lori ddadlwytho gymalog, gyrru llwythwr telesgopig a llawer yn rhagor.

Lletygarwch ac Arlwyo

 Hyfforddiant arlwyo sy'n cael ei gynnig gyda chysylltiadau â swyddi gwag Cyngor RhCT – mae cyrsiau'n cynnwys Diogelwch Bwyd, Cymorth Cyntaf, Alergenau Bwyd a Chodi a Chario.

Hyfforddiant barista i ennill profiad ymarferol ochr yn ochr â chymwysterau cydnabyddedig, sy'n cynnwys Diogelwch Tân, Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) a Rheoli Gwastraff. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Gwaith ar y Rheilffyrdd

 Yn dibynnu ar gyfleoedd swyddi lleol, mae modd cynnig hyfforddiant sy'n cynnwys prawf meddygol cychwynnol a phrawf cyffuriau ac alcohol, diogelwch personol ar y rheilffyrdd 2 ddiwrnod neu 10 diwrnod a chyflwyniad i'r rheilffyrdd, OLEC 1 ac offer bach. Bydd hyfforddiant yn cynnwys cyfarpar diogelu personol. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Diogelwch

 Mae'r hyfforddiant yma'n cael ei gynnig ar sail chwarterol. Cymhwyster Diwydiant Diogelwch Lefel 2 (7 diwrnod) sy'n cynnwys cymhwyster Cymorth Cyntaf Lefel 3 (1 diwrnod), hyfforddiant gweithredu teledu cylch cyfyng (3 diwrnod) a chwrs hyfforddiant gweithredu rhwystrau (1 diwrnod).

Cadw Warws

 Yn unol ag anghenion y farchnad lafur, rydyn ni'n cynnig hyfforddiant gweithredu fforch godi, gwrthbwyso, estyn a phlygu. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Harddwch

Mae'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig yn cynnwys hyfforddiant gwasanaethau i gwsmeriaid, trin ewinedd, cymhwyster gel/paent ewinedd, BIAB. Trin a thrafod cyfleoedd i ddod yn hunangyflogedig. Cysylltwch â ni i gael gwybod rhagor.

Glanhau

Gan weithio gyda chyflogwyr lleol a chysylltu â swyddi gwag byw, mae hyfforddiant yn cynnwys iechyd a diogelwch yn y gweithle, rheoli sylweddau peryglus i iechyd (COSHH), cymorth cyntaf brys yn y gwaith a sgiliau cyfweliad. Cysylltwch â ni i gael gwybod am ddyddiad y cwrs nesaf.

Cysylltu â Chyflogwyr

 

 

Mae modd i'n Swyddogion Cysylltu â Chyflogwyr roi cymorth i chi gyda chysylltiadau uniongyrchol â chyfleoedd cyflogaeth ym mhob sector.

Welsh Gov logo

 Welsh - Funded by UK Government - stacked

 

Communities for work