Mae ein Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth ar gael i gefnogi busnesau lleol gyda nifer o wasanaethau AM DDIM sy'n cynnwys:
- Recriwtio am ddim – cymorth megis hidlo CVs, sgrinio cyn asesu a threfnu cyfweliadau ar gyfer ceiswyr gwaith
- Cyngor am ddim a chymorth i wneud ceisiadau – ar gyfer busnesau sydd â diddordeb mewn cynlluniau cyflogaeth
- Hysbysebu am ddim – ar ein cyfryngau cymdeithasol neu rwydweithiau mewnol ac allanol
- Gwiriadau cyn cyflogaeth am ddim – cynnal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar weithwyr ac asesu llythrennedd / rhifedd os ydych chi'n recriwtio drwy ein carfan
- Cysylltiadau am ddim i'n gwasanaeth cymorth yn y gwaith, hyfforddiant un wrth un i helpu'ch gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo neu i gynyddu gallu gweithio posibl
- Cymorth i osod cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith
- Mae modd i’n clybiau gwaith hefyd roi cymorth gyda Ffurflenni Cais a CVs
- Hyfforddiant am ddim – cynnig hyfforddiant neu drwyddedau hanfodol sy'n berthnasol i'r sector ble mae modd eu haddasu i ddiwallu anghenion eich busnes
Hyfforddiant Penodol i'r Sector Gwaith
Hyfforddiant wedi'i achredu i ddiwallu anghenion eich busnes.
Mae'r sectorau'n cynnwys:
Sample Table
Canolfan Alwadau/Gwaith Gweinyddol |
Gofal (Domestig/Preswyl)
|
Gofal Plant/Cynorthwywyr Addysgu |
Adeiladu
Garddwriaeth |
Lletygarwch ac Arlwyo
|
Lletygarwch ac Arlwyo
|
Hamdden |
Y Rheilffyrdd |
Manwerthu |
Diogelwch/Stiwardio |
Trafnidiaeth |
Cyflenwi Warws
|