Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i ni

Arwain Newid – Dewch yn Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i ni

Cyngor Rhondda Cynon Taf | Cyfle i Uwch Reolwr

Ynglŷn â'r Rôl

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) eisiau penodi arweinydd eithriadol i lunio dyfodol Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ein cymunedau.

A chithau'n Gyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, byddwch chi'n gyfrifol am 111 o ysgolion a gweithlu mawr, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn RhCT yn cael addysg o’r safon uchaf, a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ffynnu.

Mae'r cyfle prin yma i fod yn un o Uwch Reolwyr y Cyngor yn cynnig cyfle i chi wneud y canlynol:

  • Llunio'r weledigaeth ar gyfer addysg a gwasanaethau cynhwysiant yn RhCT, a’i gwireddu
  • Ysbrydoli ac arwain gweithlu amrywiol o staff ysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol a rheolwyr gwasanaethau
  • Llunio polisïau a strategaethau yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac anghenion lleol
  • Cydweithio â phenaethiaid ysgolion, partneriaid ac aelodau etholedig i wella a llywio'r sector addysg yn barhaus

Amdanoch Chi

Hoffen ni benodi arweinydd addysg profiadol â gweledigaeth, sy’n gallu:

  • Dangos arweinyddiaeth strategol a gweithredol gref
  • Meithrin partneriaethau effeithiol ledled ysgolion, llywodraeth leol ac asiantaethau cenedlaethol
  • Hybu cynhwysiant, tegwch a lles i bob disgybl
  • Dod ag arloesedd, cydnerthedd ac angerdd dros wella cyfleoedd bywyd i blant a phobl ifainc

Hoffen ni benodi arweinydd â chymwysterau proffesiynol cryf, gwybodaeth dda am faterion deddfwriaethol a gwleidyddol, a phrofiad helaeth o ddarparu gwasanaethau pwysig ar lefel strategol. Bydd gennych chi hanes da o arwain newid sefydliadol cymhleth, rheoli cyllidebau sylweddol, gweithio'n effeithiol ag Aelodau Etholedig, llunio strategaeth gorfforaethol a meithrin cysylltiadau cyflogaeth gadarnhaol.

Pam Ymuno â Chyngor RhCT?

Byddwn ni’n cynnig cyfleoedd rhagorol i chi ddefnyddio'ch sgiliau i fynd â’r gwasanaeth allweddol i'r lefel nesaf.

Mae gan ein Gwasanaeth Addysg sylfaen gref, gyda dros £1 biliwn wedi'i fuddsoddi i wella adeiladau ysgolion a chreu cyfleusterau newydd sbon i ddisgyblion a staff — gyda rhagor ar  y gweill ar gyfer 2026 a thu hwnt.

Byddwch chi’n ymuno â charfan o unigolion ymroddedig sy'n edrych tua’r dyfodol ac yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio bywydau ein cymunedau.

Manteision a Buddion

Yn gyfnewid am eich angerdd a'ch ymroddiad, byddwch chi’n cael:

  • Cyflog cystadleuol o £113,745
  • Cynllun pensiwn hael
  • Trefniadau gweithio hybrid a hyblyg ledled RhCT
  • Hawl i wyliau blynyddol hael
  • Cynllun adleoli i gynorthwyo'r ymgeisydd llwyddiannus i symud i weithio yn RhCT

Manylion Allweddol

Lleoliad: Gweithio ledled RhCT yn ôl yr angen, yn ogystal â threfniadau hybrid
Cyflog: £113,745
Dyddiad Cau: 05/01/2026

Gwybodaeth Bellach

Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â James Eddison ar james@moxiepeople.com

Tudalennau yn yr Adran Hon