Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?
Rydw i wedi gweithio i'r Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref ers 21 mlynedd. Pan ddechreuais i gyda'r gwasanaeth, ei enw oedd 'Gofal Cartref' ac roeddwn i'n weithiwr gofal cartref. Ar ôl tua 4 mlynedd, symudais i ymlaen i fod yn Gynlluniwr Gofal Cartref, yna des i'n oruchwyliwr Gofal Cartref tua 12 mlynedd yn ôl.
Cyn gweithio i Gyngor RhCT, roeddwn i'n gweithio mewn ffatri ar y peiriannau gwnïo. Gadewais i'r swydd i gael fy mhlant a phan roeddwn i'n barod i ddychwelyd i'r gwaith roeddwn i'n edrych am waith gydag oriau rhan-amser, hyblyg felly cyflwynais i gais i fod yn Weithiwr Gofal Cartref achlysurol.
Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?
Ar hyn o bryd rydw i'n rheoli 21 aelod o staff gofal yn y cartref sy'n gweithio yn y gymuned, gan ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain.
Gall diwrnod arferol gynnwys ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth i adolygu eu gwasanaeth, cwblhau asesiadau risg a chynllunio gwasanaethau newydd ar gyfer unigolion yn y gymuned a allai fod angen ein cymorth a'n cefnogaeth. Cynnal sesiynau goruchwylio gyda fy staff i’w cefnogi yn eu rôl ac yn cymryd galwadau ffôn gan staff, aelodau o’r teulu, nyrsys ardal, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol ac ati.
Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?
Rydw i wrth fy modd gyda fy swydd a'r ffaith fy mod i'n cael galluogi unigolion i aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Rydw i hefyd yn mwynhau paratoi asesiadau risg a dod o hyd i atebion i unrhyw risgiau a amlygwyd. Rydw i hefyd yn teimlo’n freintiedig iawn bod fy staff yn rhannu eu problemau / pryderon mwyaf personol â mi gan eu bod yn ymddiried ynof i a’m barn ac maen nhw'n gwybod y byddaf yn eu helpu mewn unrhyw ffordd y gallaf.
Beth wnaeth eich denu i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?
I ddechrau, yr oriau hyblyg a oedd wedi fy nenu i ymgeisio gan fod teulu ifanc gyda fi. Felly, roedd yr oriau'n gweddu i'm ffordd o fyw. Serch hynny, ar ôl i mi ddechrau gweithio gyda'r unigolion yn eu cartrefi, roeddwn i wedi gwirioni ar y rôl. Rydw i'n credu mai gwybod fy mod i'n un o'r rhesymau pam mae unigolion yn gallu aros yn eu cartrefi eu hunain oedd yn rhoi cymaint o foddhad i mi. Mae hynny ar ei ben ei hun yn gwneud i mi deimlo'n dda.
Pa bethau cadarnhaol ydych chi wedi'u profi yn eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?
Y peth da am weithio i Gyngor RhCT yw bod cyfle bob amser i symud ymlaen a datblygu os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud hynny
Rydw i wedi symud ymlaen o fod yn Weithiwr Gofal yn y Cartref i fod yn Oruchwyliwr.
Mae digon o gyfleoedd bob amser i fynychu unrhyw gwrs hyfforddi sy'n berthnasol i'ch rôl.
Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?
Y gefnogaeth gan fy nghydweithwyr a rheolwyr a mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant, datblygu, cyfleoedd adleoli a chyfleoedd secondiad.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?
Yn fy marn i, rhaid i chi fod â chymeriad penodol i fod yn weithiwr gofal, gan fod angen i chi allu cydymdeimlo ag unigolion wrth aros yn broffesiynol
Mae'n swydd werth chweil ac os dyma'r swydd iawn i chi, byddwch chi wrth eich bodd â bob munud ohonit.