Emma - Goruchwyliwr, Cymorth yn y Cartref

Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?

Dechreuais weithio i'r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor RhCT yn 2003 fel Gweithiwr Gofal yn y Cartref. Ers hynny rydw i wedi cael llawer o swyddi; rydw i'n Oruchwyliwr Nos Symudol ar hyn o bryd.

Rydw i bob amser yn cael cefnogaeth dda i gydbwyso'r gwaith a fy mywyd personol ac rydw i bob amser wedi cael yr hyfforddiant gorau sydd wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw

Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?

Mae fy swydd yn ymwneud â darparu gwasanaeth i bobl agored i niwed yn RhCT a rheoli staff cymorth. Mae fy shifft waith yn golygu bod y rhain yn gallu bod yn brysur iawn ac rydw i weithiau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn brydlon.

Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?

Gwybod fy mod i'n helpu pobl sydd ein hangen ni ac yn rhoi'r cymorth gorau posibl.

Beth wnaeth eich denu chi i wneud cais am swydd gyda Chyngor RhCT?

Cymorth, sicrwydd gwaith, hyfforddiant da er mwyn gwella a rhagori.

Pa bethau cadarnhaol ydych chi wedi'u profi yn eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?

Mae bob amser yn dda gwybod bod eich gweithredoedd yn helpu pobl eraill.
Mae wedi bod yn gamp anhygoel gallu gweithio fy ffordd i ble rydw i heddiwy.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?

Gweithio'n rhan o garfan frwdfrydig sy'n rhoi cymorth i bobl sydd ein hangen ni.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?

Rhowch gynnig arni, mae digon o gymorth a hyfforddiant i'ch helpu i gyflawni eich gorau.