Beth mae eich swydd yn ei gynnwys a sut beth yw diwrnod arferol?
Mae fy swydd yn cynnwys rhoi cymorth i staff gydag unrhyw broblemau neu bryderon sydd gyda nhw. Mae'r rhain yn cynnwys problemau personol yn ogystal ag anawsterau'n ymwneud â'r gwaith. Rydw i'n gweithio gyda Meddygon Teulu, Nyrsys Ardal a Rheolwyr Gofal i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae cael agwedd broffesiynol a bod yn drefnus yn hanfodol.
Beth yw’r peth/pethau gorau am eich swydd?
Y peth gorau yw dod i adnabod pobl yn dda. Rydw i'n treulio'r rhan fwyaf o'm diwrnod gyda fy nghydweithwyr a staff a gall fod yn hwyl yn ogystal ag yn brysur. Mae dod i adnabod defnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd bob amser yn rhywbeth arbennig, yn enwedig gwrando ar bobl yn siarad am eu blynyddoedd iau. Mae rhai ohonyn nhw'n hynod ddiddorol. Mae gallu tawelu meddyliau staff, defnyddwyr y gwasanaeth ac aelodau o'r teulu i weld y rhyddhad ar eu hwynebau weithiau yn ddigon i'ch cadw chi i fynd. Dim ond gwybod fy mod i wedi helpu mewn rhyw ffordd. Mae'n deimlad gwych
Mae'r cyfeillgarwch rydych chi'n ei ddatblygu wrth weithio ochr yn ochr â'ch cydweithwyr wedi golygu llawer iawn i mi. Rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn eich swydd a beth oeddech chi'n ei wneud o'r blaen?
Rydw i wedi bod yn Oruchwyliwr ers 12 mlynedd. Cyn hynny bûm yn gweithio mewn lleoliad Preswyl am 5 mlynedd yn Gynorthwy-ydd Gofal. Fy rôl flaenorol oedd fel Tafarnwraig yn rhedeg fy nhafarndai fy hun. Ar ôl gorffen yn y Fasnach Dafarndai roeddwn i eisiau gweithio gyda phobl nid peiriannau. Awgrymodd fy chwaer yng nghyfraith Ofal Preswyl gan ei bod eisoes yn gweithio mewn lleoliad Gofal preswyl. Roeddwn i'n amheus ar y dechrau ond mi wnes i fwynhau fy amser yno'n fawr. Ar ôl 5 mlynedd teimlais fy mod eisiau cymryd rhagor o gyfrifoldebau ac felly gwnes gais am fy rôl bresennol, sef Goruchwyliwr Gofal yn y Cartref.
Beth yw eich profiadau cadarnhaol yn ystod eich gyrfa gyda Chyngor RhCT?
Pan ddechreuais weithio i Gyngor RhCT doedd gen i ddim cymwysterau ym maes Gofal Cymdeithasol. Rydw i'n falch iawn o gyflawni fy NVQ lefel 4. Mae'r hyfforddiant sydd ar gael i mi wedi bod yn ardderchog ac wedi bod yn berthnasol i'm rôl bob amser. Rydw i wedi cael llawer o anogaeth gan fy rheolwyr i roi cynnig ar wahanol bethau. Roeddwn i'n un o'r Goruchwylwyr Meddyginiaethau cyntaf o fewn Cymorth yn y Cartref. Roedd y profiad a gefais wrth weithio mewn Gofal Preswyl yn sail i hyn. Mae'r Gwasanaeth bob amser yn ceisio esblygu i ddarparu gofal cadarnhaol i'n defnyddwyr y gwasanaeth felly mae cyfle bob amser i gymryd rhan os ydych chi'n dymuno.
Beth yw'r peth gorau am weithio i Gyngor RhCT?
Rhan fawr o hyn yw'r sicrwydd o fod mewn gwaith. Yn bennaf oll, y bobl rydw i'n gweithio gyda nhw, cydweithwyr, staff a chleientiaid. Mae'n le gwych i weithio. Mae'r Cynllun Pensiwn yn dda hefyd.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried gwneud cais am swydd ym maes gofal cymdeithasol yng Nghyngor RhCT?
Peidiwch â meddwl am y peth, rhowch gynnig arni. Fyddwch chi ddim yn cael eich siomi.