Ein pwrpas
Gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i atal problemau rhag gwaethygu, ac i ddarparu cymorth, i ddiogelu a gwella lles plant a phobl ifainc.
Ein Gwerthoedd
Teulu
Rydyn ni'n hyrwyddo hawl plant i fywyd teuluol.
Cymorth
Rydyn ni’n rhoi cymorth i deuluoedd iddyn nhw gael y cymorth iawn ar yr amser iawn, trwy roi mwy o gymorth, a llai o gymorth ond byth yn camu i’r ochr yn rhy fuan.
Parch
Rydyn ni’n parchu hunaniaeth pawb, ei amgylchiadau a’i ddewisiadau, gan gynnwys pobl ifainc a’u teuluoedd yn ein gwaith a phenderfyniadau am eu bywydau a’u hamgylchiadau.
Cryfderau'r Teulu a Diogelu
Rydyn ni’n gweithio ar gryfderau, ac rydyn ni’n eglur gyda phobl am risgiau, a’r canlyniadau rydyn ni’n gweithio tuag atyn nhw.
Sefydlogrwydd
Rydyn ni’n hyrwyddo sefydlogrwydd ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal ac yn gwybod y bydd angen cymorth arbenigol arnyn nhw ar hyd y ffordd.
Balchder
Rydyn ni’n ymfalchïo yng nghyflawniadau’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda nhw.
Gwella
Rydyn ni’n chwilfrydig am effeithiolrwydd ein gwaith, ac rydyn ni bob amser yn barod i wella ac arloesi.
Ein Carfanau
Mae pob swydd gwaith cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf yn rhannu'r un disgrifiad swydd craidd. Mae gyda ni amrywiaeth o garfanau sy'n arbenigo mewn gwahanol feysydd gwaith cymdeithasol. Mae'r wybodaeth isod yn eich cyflwyno i'n carfanau ac yn amlinellu'r gwahanol feysydd gwaith a gofynion penodol.
I gael gwybodaeth am swyddi eraill yn y Gwasanaethau Plant, cysylltwch â ni.
Ymyrraeth Gynnar
“Roedd bob amser yn hawdd cysylltu â’n Gweithiwr Cymdeithasol ac mae wedi bod yn wych gweithio ag ef.”
Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Y Garfan yw'r man cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar gyfer Gwasanaethau i Blant RhCT. Mae'r Garfan yn penderfynu p'un ai bod eisiau rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth neu ymchwilio i bryderon ynghylch mater diogelu.
Os mater ynghylch diogelu sydd dan sylw, bydd yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf (MASH) yn derbyn yr atgyfeiriad.
Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)
Mae'r Hwb Diogelu Amlasiantaeth yn darparu fframwaith i asiantaethau partner gydweithio i roi cymorth i blant a'u diogelu yn y ffordd orau trwy rannu a dadansoddi gwybodaeth a gedwir amdanyn nhw.
Mae ein Carfan Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a'n Hwb Diogelu Amlasiantaeth yn cydweithio’n agos, gan sicrhau ein bod ni'n gweithredu’n gyflym ac yn briodol i sicrhau bod y penderfyniadau gorau’n cael eu gwneud ar gyfer plant a phobl ifainc.
Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth
Ffocws y gwasanaeth yw ymyrraeth gynnar ac atal. Fe’i cynlluniwyd i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, i gynnig asesiadau cyflym sy'n canolbwyntio ar wydnwch, i gael gwared ar rwystrau ymarferol i newid cadarnhaol, ac i gynnig ymyriadau amserol ac effeithiol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma
Carfanau Ymholi ac Asesu
Mae'r Carfanau Ymholi ac Asesu yn asesu a dangos y ffordd i sicrhau bod teuluoedd yn cael y lefel gywir o gymorth. Lle nodir anghenion sy'n gofyn am gyfranogiad gwasanaethau statudol, datblygir cynllun gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau. Mae ymarferwyr yn gweithio gyda theuluoedd tan y Gynhadledd Amddiffyn Plant gychwynnol.
Ymyrraeth Ddwys
“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael amser heriol ond mae (ein Gweithiwr Cymdeithasol) wedi fy helpu fel rhiant trwy dawelu fy meddwl, gan gefnogi lles y ddau ohonon ni.”
(y Gorllewin a'r Dwyrain 1,2,3)
Mae ein carfanau Ymyrraeth Ddwys yn cynnig y cyfle i weithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion, sy'n cynnwys plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rhai ym maes amddiffyn plant. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a dysgu. Rydyn ni wedi canolbwyntio ein hadnoddau i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddarparu asesiadau, cynlluniau a gwaith uniongyrchol o ansawdd uchel, i wella'r profiad i blant ac i sicrhau gwell deilliannau iddyn nhw.
Carfanau 16+
Mae'r carfanau 16+ yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 16 a 21 oed (neu hyd at 25 oed, mewn rhai achosion) sydd wedi bod yn derbyn gofal, gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn gweithio gyda'r bobl ifainc i roi'r sgiliau iddyn nhw fod yn annibynnol ac i gyrraedd eu llawn botensial.
Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym meysydd addysg a hyfforddiant, a hefyd yn darparu ystod o opsiynau llety ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal gan weithio gyda’n cydweithwyr ym maes tai i ddiwallu anghenion unigol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.
Gwasanaethau i Blant Anabl
Mae Gwasanaeth i Blant Anabl ar ei newydd wedd yn galluogi plant anabl a'u teuluoedd i gyflawni eu deilliannau personol yn well ac yn darparu cefnogaeth wedi'i thargedu.
Mae'r garfan yn cefnogi plant a theuluoedd sydd ag anabledd parhaol a sylweddol. Mae'n eu tywys trwy'r broses asesu ac yn darparu cefnogaeth benodol trwy wasanaethau ataliol neu gynlluniau gofal a chymorth fel sy'n briodol. Mae'r garfan yn pennu ac yn rheoli unrhyw risgiau diogelu ac maen nhw'n gyfrifol am blant anabl sy'n derbyn gofal.
Cymorth i Deuluoedd a Llety
Maethu
Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn ein carfanau timau Maethu yn gyfrifol am recriwtio, (gan weithio'n agos gyda Maethu Cymru), goruchwylio a chefnogi rhieni maeth cymeradwy, cynhalwyr sy'n berthnasau a gwarcheidwaid arbennig. Mae gyda ni ystod o gymorth i gynhalwyr gan gynnwys rhaglen hyfforddi bwrpasol, ymyriadau therapiwtig, grwpiau cymorth gan gymheiriaid a buddion y Cyngor.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
“Mae ein gweithiwr cymdeithasol yn ased gwirioneddol i’r tîm, rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i rannu dechrau ein taith faethu gyda hi a byddwn ni'n ddiolchgar am byth am ei holl ofal a chefnogaeth."
Preswyl
Mae ein Gwasanaethau Preswyl yn darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifainc rhwng 8 a 18 oed. Mae timau staff preswyl wedi ymrwymo i ddarparu amgylcheddau sefydlog a chadarnhaol sy'n gwella profiadau bywyd ac yn darparu cyfleoedd cadarnhaol i'r rhai sydd ddim yn gallu byw gyda'u teulu ar hyn o bryd. Cynllunnir cynlluniau unigol i hwyluso ailuno neu gefnogi datblygiad sgiliau bywyd wrth baratoi ar gyfer byw'n annibynnol. Mae ein timau preswyl yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi i ddarparu gofal gan ddefnyddio’r Model Adfer Trawma.
Mae ein Gwasanaeth Preswyl hefyd yn rhoi seibiant i blant a phobl ifainc ag anableddau. Mae’r gwasanaeth seibiant byr yn rhoi gofal seibiant i blant a theuluoedd cymwys, gan roi gofal sy’n canolbwyntio ar allu ac ymgysylltiad yn y gymuned leol. Mae staff yn y maes yma o’r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu gweithgareddau a phrofiadau hygyrch, cadarnhaol gydag ymagwedd bositif tuag at arosiadau seibiant.
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd Meisgyn (Ar Ffiniau Gofal)
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd Meisgyn (Ar Ffiniau Gofal)
Mae Meisgyn yn darparu ymyriadau dwys sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda’r nod o helpu rhieni/gwarcheidwaid a phlant i gyflawni newid ymddygiad sy’n gwella eu gallu i rianta, yn helpu i greu sefydlogrwydd gartref ac yn eu galluogi i ofalu am eu plant.
Darperir ymyriadau drwy:
- Gwaith unigol uniongyrchol gyda phlant a'u rhieni.
- Gweithgareddau o fewn a thu allan i'r cartref, gan gynnwys, lle bo'n briodol, o fewn lleoliad preswyl.
- Cymorth ymarferol.
- Rhaglenni rhianta.
- Gweithio gyda'r teulu estynedig.
Mabwysiadu
Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol Rhanbarthol yn gweithredu ar draws Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful gan asesu a chymeradwyo mabwysiadwyr, darparu cymorth, a dod o hyd i deuluoedd ar gyfer plant sydd i gael eu mabwysiadu. Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol yn un o bum cynllun cydweithredol a fydd yn rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru.
Diogelu
Carfan Adolygu Annibynno
Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol yn weithwyr cymdeithasol cymwys, profiadol sy'n gweithio yn y Garfan Adolygu. Mae Swyddogion Adolygu Annibynnol yn gyfrifol am gadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant yn ogystal ag Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal. Maen nhw'n ceisio barn y plentyn ac yn monitro cynnydd Cynlluniau Gofal a Chymorth i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.
Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf
Mae'r Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc yn bartneriaeth aml-asiantaeth statudol sy'n gyfrifol am atal troseddu ac aildroseddu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant sy'n dod i mewn i'r system cyfiawnder ieuenctid drwy'r Llysoedd Barn ac sy'n cael eu trin drwy ddatrysiad y tu allan i'r llys. Gan weithio'n agos gyda thimau ar draws Gwasanaethau i Blant ac asiantaethau partner eraill, mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo gwaith ataliol sy'n ceisio atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg
Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn bartneriaeth statudol ag asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl yn yr ardal. Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod gan asiantaethau drefniadau effeithiol ar waith er mwyn sicrhau bod pobl o bob oed yn cael eu diogelu rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu fathau eraill o niwed. Mae hyn hefyd yn golygu atal y pethau yma rhag digwydd. Mae modd i staff Gwasanaethau i Blant ddatblygu eu sgiliau a chyfrannu’n uniongyrchol at waith y Bwrdd, trwy fynychu is-grwpiau ar ymgysylltu a chyfranogiad, polisïau a gweithdrefnau, sicrwydd ansawdd ac adolygiadau, hyfforddiant a dysgu ac ati.
Am ragor o wybodaeth ewch i