Gwasanaethau Preswyl i Blant

Rydyn ni'n dymuno penodi unigolion sydd â'r gwerthoedd cywir ac sy'n angerddol am ddarparu amgylcheddau sefydlog a chadarnhaol i blant a phobl ifainc.

Bydd y rôl yn gofyn i chi fod â gofal a lles wrth wraidd eich ymarfer, gan sicrhau eich bod chi'n ddibynadwyyn gysonyn ymgysylltu ac yn gefnogol mewn perthnasoedd â phlant, pobl ifainc a chydweithwyr. Yn y rôl yma, byddwch chi'n gweithio'n greadigol ac yn arloesol, gan ddarparu gofal a fydd yn cynnwys lefel uchel o ymgysylltu gweithredol â gweithgareddau a gwaith uniongyrchol. Os ydych chi'n unigolyn sy’n gweithio’n dda yn rhan o garfan sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n frwdfrydig dros ehangu eich gwybodaeth trwy hyfforddiant ac ymgymryd â'r cymwysterau perthnasol ochr yn ochr â'r rôl, yna darllenwch ragor am ein gwasanaeth Preswyl isod!

Ynglŷn â'r gwasanaeth

Mae ein Gwasanaethau Preswyl yn darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifainc rhwng 6 a 18 oed. Mae carfanau staff preswyl wedi ymrwymo i wella profiadau bywyd ac i ddarparu cyfleoedd cadarnhaol i'r rhai nad oes modd iddyn nhw fyw gyda'u teulu ar hyn o bryd neu sydd angen seibiant.

Caiff cynlluniau unigol eu paratoi i hwyluso ailuno â theuluoedd, trosglwyddo i leoliad maeth, neu gefnogi datblygiad sgiliau bywyd wrth baratoi ar gyfer byw'n annibynnol. Mae ein gwasanaeth seibiant byr yn cefnogi plant anabl a'u teuluoedd, gan ddarparu arosiadau byr sy'n canolbwyntio ar weithgareddau a phrofiadau cadarnhaol a hygyrch gydag agwedd 'gallu gwneud', gan ddefnyddio model gofal PACE.

Mae ein carfanau preswyl yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi i ddarparu gofal gan ddefnyddio’r Model Adfer wedi Trawma. Wrth roi'r model ar waith, mae gan staff fynediad uniongyrchol at gymorth therapiwtig dan arweiniad seicoleg. Mae’r model gofal yma'n cyfuno damcaniaethau o ran datblygiad plant, niwrowyddoniaeth ac ymlyniad. Mae'n rhoi dealltwriaeth i ymarferwyr o ba ymyraethau i'w defnyddio a phryd, yn rhan o daith adfer a thwf personol y person ifanc. 

“Rwy’n caru fy swydd, rwy’n cael fy nghefnogi’n llawn yn fy rôl ac yn cael fy annog i symud ymlaen gyda’r amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy'n cael eu cynnig i ni. Rwy’n caru gweithio gyda phobl ifainc anhygoel a charfan wych” – Ymarferydd Gofal Plant Preswyl

Rolau Gwasanaethau Preswyl

Mae pob rôl yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr o ystod o feysydd gwasanaeth a sefydliadau i ddarparu a chynnal amgylchedd byw a dysgu diogel sy'n hyrwyddo twf iach, datblygiad, diogelwch a lles y plant.

Ymarferydd Gofal Plant Preswyl - £28,770 (Gradd 7)

Mae gan Ymarferwyr Gofal Plant Preswyl gyfrifoldeb am ddarparu gofal proffesiynol ystyrlon a diogel i bob plentyn sy'n byw yn y cartref. Mae hyn yn ymwneud â rheoliadau, safonau, polisi a chodau ymddygiad proffesiynol yr awdurdod lleol. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol o lawer o wasanaethau a sefydliadau er mwyn sicrhau bod gofal a chymorth yn bersonol i ddiwallu anghenion unigol. Mae llawer o'r gwaith yn cynnwys cefnogi unigolion i weithio trwy eu profiadau gan weithio tuag at wella a meithrin cydnerthedd, a hynny er mwyn cyflawni nodau personol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd y rhai nad ydyn nhw'n meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) cyn pen 2 flynedd o gael eu penodi.

Uwch Ymarferydd Gofal Plant Preswyl - £33,945 (Gradd 9)

Fel aelod o'r garfan reoli, mae’r Uwch Ymarferydd yn hyblyg wrth helpu Rheolwr y Cartref i sicrhau bod gofal ystyrlon a diogel yn cael ei ddarparu i’r holl blant sy’n byw yn y cartref yn unol â rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (RISCA), polisi, safonau a chod ymddygiad proffesiynol yr awdurdod lleol. Mae'r Uwch Ymarferwyr yn sicrhau bod yr holl staff yn meithrin perthynas gref, ymrwymedig a chefnogol gyda'r plant, trwy ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i'r garfan a goruchwyliaeth ffurfiol.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar Gymhwyster Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3, neu gymhwyster rhagflaenol, Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 3 Plant a Phobl Ifainc.

Rheolwr y Cartref - £41,496 (Gradd 12)

Mae Rheolwr y Cartref yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli'r cartref ac am sicrhau bod gofal ystyrlon a diogel yn cael ei ddarparu i bob plentyn. Mae Rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod safonau uchel o ofal proffesiynol yn cael eu hyrwyddo a’u cynnal a bod y cartref yn cael ei gynnal yn unol â rheoliadau, deddfwriaeth gysylltiedig, a’r cod ymddygiad proffesiynol. 

Mae gan reolwyr oruchwyliaeth gyffredinol o'r holl faterion sy'n ymwneud â'r cartref ac mae'n ofynnol iddyn nhw asesu risg a chydweddu'r rheiny sy'n symud i mewn i'r cartref. Mae Rheolwyr Cartref yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal darpariaeth gwasanaeth o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r flwyddyn, sy'n gallu ymateb i ddiwallu anghenion y plant a sicrhau bod y garfan yn cael ei chefnogi i reoli gofynion y swydd.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli (Plant a Phobl Ifainc Preswyl).  Rhaid hefyd fod gyda chi brofiad sylweddol ym maes gofal plant preswyl, gydag o leiaf 5 mlynedd o brofiad – rhaid bod 2 o'r rhain wedi bod ar lefel oruchwyliol.

 

Tudalennau yn yr Adran Hon

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.

Cysylltwch â Ni

Bwriwch olwg ar y swyddi preswyl gwag diweddaraf

Swyddi Gwag