Ein Cynnig i Chi

 

Pam Dewis Gwasanaethau i Blant RhCT?

Tra eich bod chi'n gweithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni hefyd eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn eich lles, a bod gyda chi gydbwysedd gwaith/bywyd cadarnhaol. Mae pob un o'n hymarferwyr yn cael cymorth carfan rheoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol. Byddwch chi'n rheoli llwyth achosion diffiniedig wrth adeiladu a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyfleoedd goruchwylio ardderchog.

Mae buddion eraill i staff yn cynnwys:

  • Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac mae gyda  ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
  • Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol sy'n cynnig cymorth a chyngor lles fel cwnsela, gwyliadwriaeth iechyd, nyrsys a gwasanaethau ffisiotherapyddion. Hefyd, mae CARI, ein hofferyn llesiant digidol cyfrinachol newydd, sy'n darparu ystod eang o offer i chi i gefnogi eich anghenion llesiant. Mae gan ymarferwyr hefyd y cyfle i fanteisio ar sesiynau myfyriol mewn grŵp neu yn unigol gyda seicolegwyr.  
  • Rydyn ni'n cynnig 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • Wrth weithio i Gyngor RhCT, bydd gyda chi fynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.

Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth HamddenAmOes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi disgownt i staff. Dyma ragor o wybodaeth

Byw a gweithio yn Rhondda Cynon Taf

Mwynhau ansawdd bywyd da yn byw yn RhCT.

  • Yn RhCT mae gyda ni dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog i chi ei harchwilio a thirweddau syfrdanol sy’n berffaith ar gyfer gweithgareddau fel beicio, cerdded, golff, marchogaeth, beicio cwad, dringo creigiau ac un o wifrennau gwib cyflymaf y byd yn Zip World Tower.
  • Mae yna atyniadau unigryw i ymweld â nhw, gan gynnwys theatrau hanesyddol, parciau gwledig, amgueddfeydd, Profiad y Bathdy Brenhinol a Lido Cenedlaethol Cymru.
  • Mae RhCT nepell o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Mae hefyd o fewn pellter teithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Abertawe, sydd â rhai o draethau gorau'r DU.

Cyflog Gwaith Cymdeithasol

Gweithiwr Cymdeithasol

Lefel Mynediad - meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol, hynny yw, gradd MA/gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol blaenorol, e.e. CQSW, DipSW, CSS.
Gradd 11 - £38,296

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol

Angen o leiaf 3 mlynedd o brofiad o waith ôl-gymhwyso. I'r rhai a gymhwysodd ar ôl 1 Ebrill 2016 yng Nghymru, rhaid eu bod wedi cwblhau gofyniad cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru sef 'Y Flwyddyn Gyntaf o Ymarfer' a'r Rhaglen Cydgyfnerthu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a'r ailgofrestriad cyntaf ar ôl 3 blynedd ar ôl cymhwyso. Mae'r rhai sydd wedi cymhwyso y tu allan i Gymru angen tystiolaeth o 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ac mae angen iddyn nhw gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd 12 - £41,496

Blaen Weithiwr Cymdeithasol

Profiad ôl-gymhwyso sylweddol, gan gynnwys y profiad ar lefel Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol. Bydd angen i chi ddirprwyo ar gyfer Rheolwr y Garfan, rheoli achosion cymhleth a chyflawni rôl sicrhau ansawdd.
Gradd 13- £44,539

Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad
Mae'r swydd yma'n gofyn am brofiad ôl-gymhwyso sylweddol yn y ddisgyblaeth gysylltiedig (5 mlynedd a rhagor).
Gradd 14 – £47,573

Mae'r holl staff yn ein Carfanau Ymyrraeth Gynnar - Ymholi ac Asesu a'n Carfanau Ymyrraeth Ddwys (y Dwyrain a'r Gorllewin, 1,2,3) yn gymwys i dderbyn atodiad y farchnad o £2000.00. Mae hyn waeth beth fo hyd y profiad ôl-gymhwyso a chaiff ei adolygu ym mis Mai 2025. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu'n fisol ar sail pro rata.

Dysgu a Datblygu

“Dechreuais weithio i'r Cyngor fel gweithiwr cymorth achlysurol. Wedi i mi gael profiad a dilyn y  llwybrau datblygu oedd ar gael, symudais ymlaen i bwynt lle cefais gefnogaeth i gwblhau fy nghymhwyster gwaith cymdeithasol. Mae hyfforddiant ôl-gymhwyso pellach, profiad a chyfleoedd dyrchafiad wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa yn RhCT ac rydw i bellach yn aelod o Garfan Rheoli Gwasanaethau i Blant.”

Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig i bob gweithiwr gyflawni ei botensial llawn. Os byddwch chi'n dewis gyrfa yng Ngwasanaethau i Blant RhCT, bydd gyda chi fynediad i'n Canolfan Dysgu a Datblygu fewnol bwrpasol, sy'n cefnogi ymarferwyr ar bob lefel i gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus, gan gynnwys:

Rhaglen gynhwysfawr ‘Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer’ sy’n cefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso;

  • Ar ôl cwblhau eich Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer yn llwyddiannus, byddwch chi'n cael eich cofrestru ar ein rhaglen atgyfnerthu orfodol;
  • Mae amrywiaeth o raglenni ôl-gymhwysol noddedig ar gael ar gyfer Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus;
  • Ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol sydd am symud ymlaen i fod yn rheolwyr, mae cyfleoedd i gofrestru ar y Rhaglen Datblygu Rheolwyr Carfan;
  • Mae cyfleoedd Datblygiad
  • Proffesiynol Parhaus wedi'u teilwra'n arbennig ar gael ar gyfer gweithwyr mewn rolau arbenigol er mwyn gwella eu gwybodaeth gyfredol a datblygu ymhellach;
  • Rydyn ni'n datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr yng Ngwasanaethau Plant RhCT, gyda’r ffocws ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol.

Dysgwch ragor am ein Gwasanaeth Preswyl i Blant

Gwasanaeth Preswyl

Bwriwch olwg ar Swyddi Gwag Gwasanaethau i Blant

Swyddi Gwag

Tudalennau yn yr Adran Hon

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.

Cysylltwch â Ni