Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn cynnig defnydd rhad ac am ddim o amrywiaeth eang o lyfrau ac adnoddau ar-lein.
Bydd rhaid i chi ymaelodi â’r llyfrgell er mwyn manteisio ar yr e-lyfrau a’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau ar-lein
Ewch i wefan treftadaeth newydd sbon RhCT sy'n cadw ac yn hyrwyddo diwylliant, hanes a threftadaeth Rhondda Cynon Taf.
PressReader-Bapurau Newydd
- PressReader - mwy na 7000 o bapurau newydd a chyhoeddiadau digidol o'r DU ac o amgylch y byd ar gael 24/7 ac mewn 60 o ieithoedd.
- Mae modd ichi wrando ar erthyglau mewn iaith o'ch dewis chi gan ddefnyddio'r ap PressReader.
- Mae apiau pwrpasol ar gyfer iOS, Android BlackBerry a Windows er mwyn cael mynediad at PressReader wrth fynd o le i le.
- Dewch o hyd i gymorth drwy fwrw golwg ar y canllaw PressReader.
- Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a rhif adnabod personol (PIN).
- Mae modd defnyddio rhifau cerdyn llyfrgell dros dro (sy'n cael eu darparu wrth ymuno ar-lein) hefyd.
Llyfrau Llafar uLIBRARY - Ulverscroft
Dyma fodd o fwynhau llyfrau poblogaidd ble bynnag yr ydych chi.
Mae dewis gwych o awduron poblogaidd, sy'n cynnwys Lee Child, Ann Cleeves a James Patterson. Dyma gyfle i chi lawrlwytho a gwrando ar lyfrau llafar sydd wedi'u recordio gan rai o berfformwyr gorau'r byd.
BorrowBox –Gwasanaeth Lawr-lwytho
Benthyg, lawr-lwytho a mwynhau! Mae BorrowBox yn gartref i’r e-lyfrau a’r llyfrau llafar gorau gan awduron penigamp o Awstralia a thu hwnt. Eich llyfrgell mewn un ap.
Yn ogystal ag ePress (yn cynnwys mynediad at e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd)”
(Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif adnabod/PIN)
Gwasanaeth Ar-lein – Cylchgronau Digidol 24/7
- Copïau Digidol llawn o’ch hoff gylchgronau
- Defnydd di-derfyn o’n casgliad; caiff rhifynnau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd
- Darllenwch gylchgronau ar eich cyfrifiadur personol neu ddyfais symudol
Dull dysgu ieithoedd gyda benthycwyr y llyfrgelloedd mewn golwg.
Mae'n rhaglen dysgu ieithoedd ar gyfer llyfrgelloedd, a'u defnyddwyr. Mae'n darparu profiad effeithiol, hwylus a deniadol i ddysgwyr ar bob lefel. (Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif adnabod/PIN i ddefnyddio’r cyfleuster)
Mae Transparent Language Online ar gael mewn dros 110 o ieithoedd.
Hawl i gyrchu dros 2 biliwn o gofnodion hanes teulu.
Mae mynediad AM DDIM i Find My Past ar gael ym mhob un o Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.
(Bydd angen eich rhif aelodaeth a rhif aelodaeth/PIN i ddefnyddio’r cyfleuster)
Bydd angen eich rhif aelodaeth a'ch rhif 'pin' arnoch chi.
Chwiliwch drwy biliynau o gofnodion i olrhain hanes eich teulu.
Mae mynediad i Ancestry Library Edition ar gael ym mhob un o'n llyfrgelloedd cangen.
Mae modd cyrchu’r adnoddau canlynol ar-lein drwy gyfrifiaduron y llyfrgell sy’n cynnig mynediad i’r cyhoedd.
Mae Issues Online yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag amrywiaeth eang o faterion cymdeithasol cyfoes. Mae cyfoeth y wybodaeth sy'n cael ei darparu ynglŷn â phynciau fel hunan-niwed, beichiogrwydd ymhlith pobl ifainc yn eu harddegau ac ysmygu yn golygu ei fod yn adnodd amhrisiadwy i unrhyw un sy'n astudio materion cymdeithasol heddiw.
Mae cwestiynau prawf swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar gyfer ceir, beiciau modur, cerbydau cludo teithwyr, cerbydau nwyddau mawr a chlipiau canfod peryglon, ynghyd â fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr.
Darganfyddwch fyd ymchwil academaidd cyhoeddedig yn eich llyfrgell leol.