Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'ch llyfrgell leol gallwn ddarparu deunydd i'ch cartref.
Os ydych yn gaeth i'ch cartref neu'n anabl, gallwn ni ddosbarthu eich eitemau llyfrgell i'ch cartref chi.
Mae cludiant cymunedol hefyd ar gael ar gyfer y bobl hynny sy'n cael trafferth cyrraedd y llyfrgell.
Mae'r gwasanaeth yma ar gael yn Gymraeg.
Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys, neu fod aelod o'r teulu yn gallu elwa ar y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni i drefnu asesiad.
Manylion Cyswllt
Llyfrgell Gartref
Ffôn:01443 424835/01443 424837/01443 424831/01685 880061