Mae catalog y llyfrgell yn eich galluogi chi i archebu neu adnewyddu llyfrau ar-lein.
Sut i gyrchu catalog y Llyfrgell?
Mae modd i unrhyw un chwilio drwy gatalog y llyfrgell ar-lein. Ond, os hoffech chi archebu neu adnewyddu eitem, rhaid i chi ymaelodi â’r llyfrgell.
Defnyddiwch gatalog y llyfrgell i chwilio am eitemau, archebu neu adnewyddu eitemau
Benthyg Eitemau
Mae modd i unrhyw un fenthyg hyd at 10 llyfr neu lyfrau llafar ar unrhyw adeg am gyfnod o 3 wythnos.
Yn ogystal â hyn, mae’n bosib i chi fenthyg hyd at 3 eitem gerddorol neu DVDau.
Adnewyddu Benthyciad
Mae modd adnewyddu eich benthyciad drwy:
Os nad ydych chi’n adnewyddu eitem cyn y dyddiad sydd wedi’i nodi ar y llyfr , bydd rhaid i chi dalu ffi.
Eitemau coll/wedi’u difrodi
Rhaid i ddefnyddwyr dalu tuag at ailosod eitemau sydd wedi mynd ar goll neu sydd wedi’u difrodi. Caiff y tâl ei godi ar sail y raddfa ganlynol:
- Eitemau o dan 6 mis oed - cost lawn yr eitem
- Eitemau rhwng 6 mis a 2 flwydd oed - dau dreian o’r gost wreiddiol
- Eitemau dros 2 flwydd oed – treuan o’r gost wreiddiol