Mae cilfach barcio ar gyfer pobl anabl yn lle parcio sydd wedi'i ddyrannu mewn 'blwch' sydd wedi'i farcio â llinellau gwyn gydag arwydd cysylltiedig.
Nod cilfach barcio yw helpu pobl ag amhariad symudedd sy'n methu â cherdded yn bell ac sydd angen cymorth i barcio'n agos at eu cartrefi, neu'r rheiny sydd angen goruchwyliaeth gyson ynghylch traffig o ganlyniad i amhariad gwybyddol neu anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Cilfachau Parcio i Bobl Anabl AR AGOR NAWR.
Cymhwysedd i gael Cilfach Barcio ar gyfer Pobl Anabl
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cilfach barcio, mae rhaid eich bod chi'n bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- Bod yn ddeiliad parhaol Bathodyn Glas dilys (nid un dros dro)
- Derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)
- Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
- Ychwanegiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
- Lwfans Gweini
- Meddu ar dystiolaeth feddygol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol (Meddyg Ymgynghorol, Nyrs Arbenigol, neu Ffisiotherapydd - NID Meddyg Teulu) -Templed ar gyfer tystiolaeth feddygol
- Meddu ar gerbyd wedi'i gofrestru i gyfeiriad y cais ac mae rhaid i'r perchennog cofrestredig fyw yno
- Does dim mynediad gyda chi at fan parcio oddi ar y stryd
- Rydych chi'n byw ar ffordd lle nad oes unrhyw waharddiadau traffig ac mae'n ddiogel i osod cilfach
Os ydych chi dal i fod yn ansicr os ydych chi’n gymwys, ewch i'n tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Cyflwyno Cais
Ar-lein
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Cilfachau Parcio i Bobl Anabl AR AGOR NAWR. Bydd gofyn i chi lanlwytho llun o'ch tystiolaeth, gwnewch yn siŵr bod y llun neu'r hyn sydd wedi'i sganio yn glir ac yn dangos cyfeiriad yr ymgeisydd.
Trefnwch apwyntiad yn un o'n Canolfannau IBobUn i gael cymorth gyda'ch cais. Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau ar 12 Mai (4.15pm).
Wyneb yn wyneb mewn Canolfannau IBobUn
Does dim modd gwneud cais dros y ffôn o ganlyniad i'r angen i gyflwyno tystiolaeth
Er mwyn cyflwyno cais yn llwyddiannus, rhaid i chi gyflwyno:
- Eich rhif bathodyn glas.
- Lluniau neu gopi wedi'i sganio o'ch llythyr dyfarnu budd-dal cymwys:
- Taliadau Annibyniaeth Personol – gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a chadarnhad eich bod yn derbyn y gyfradd uwch mewn perthynas â'r elfen symudedd
- Lwfans Byw i'r Anabl - gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a chadarnhad eich bod yn derbyn y gyfradd uwch mewn perthynas â'r elfen symudedd
- Pensiwn Rhyfel – gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a chadarnhad eich bod yn derbyn y gyfradd uwch mewn perthynas â'r elfen symudedd
- Lwfans Gweini – gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad
Cadarnhad bod dim mynediad gyda chi at barcio oddi ar y ffordd.
Trefnu apwyntiad ar-lein mewn Canolfan IBobUn o'ch dewis er mwyn cyflwyno'ch cais. Mae modd i chi drefnu apwyntiad hefyd drwy ffonio 01443 425 003. Nodwch, does dim rhaid i'r ymgeisydd ddod i'r apwyntiad cyn belled â bod modd i'r holl wybodaeth mae ei hangen gael ei chyflwyno yn ei absenoldeb.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y bydd eich cais a'ch dogfennau ategol wedi'u derbyn, bydd y Cyngor yn adolygu eich gwybodaeth ac efallai’n cysylltu â chi os oes angen rhagor o fanylion. Os yw'ch cais yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cynhelir asesiad bwrdd gwaith i benderfynu a yw'n ymarferol gosod cilfach yn eich lleoliad. Yn ychwanegol, bydd Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol yn ymweld â chi i gwblhau asesiad o'ch sefyllfa.
Byddwch chi'n cael gwybod am statws eich cais yn ystod y broses drwy'r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi'i roi i ni.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin