Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin am Faes Parcio i Anabl

1. Pwy sy'n gymwys i wneud cais yn rhan o'r Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl ?

Ateb: Rhaid i chi fodloni'r meini prawf isod i fod yn gymwys:

  • Rydych chi'n meddu ar Fathodyn Glas parhaol dilys.
  • Rydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
    1. Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i'r Anabl (DLA).
    2. Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel.
    3. Lwfans Gweini
  • Mae gyda chi gar sydd wedi'i gofrestru yn eich cyfeiriad chi, ac mae perchennog cofrestredig y car yn byw yn y cyfeiriad hwnnw.
  • Does dim mynediad gyda chi at fan parcio oddi ar y stryd.
  • Rydych chi'n byw ar ffordd lle nad oes gwaharddiadau traffig ac mae'n ddiogel gosod cilfach barcio.
  • Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth feddygol, gan Ddoctor, Nyrs Arbenigol neu Ffisiotherapydd sy’n ymdrin yn benodol â'ch anawsterau o ran symudedd a pharcio (DDIM yn feddyg teulu).

2. Oes terfyn oedran yn rhan o'r Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl? (h.y a fyddai modd i riant/gwarcheidwaid babi/plentyn anabl sydd angen cludo cyfarpar meddygol mawr wneud cais?)

Ateb: Nid oes terfyn oedran, mae croeso i rieni/gwarcheidwaid wneud cais. Mae'r meini prawf uchod yn dal i fod yn berthnasol i'r person sydd angen y gilfach barcio (p'un a ydy'r person yma'n gyrru'r car ai peidio).

3. Pa waharddiadau traffig fyddai'n atal gosod cilfach barcio?

Ateb: Nid oes modd gosod cilfach barcio lle mae cyfyngiadau eisoes ar waith. Mae hyn yn cynnwys cyfyngiadau fel llinellau melyn dwbl, arosfannau bysiau, parthau llwytho, neu glirffyrdd. Yn ogystal, ni fydd cilfachau parcio yn cael eu gosod mewn ardaloedd lle byddai parcio yn rhwystro mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys, llif y traffig, neu'n mynd yn groes i reoliadau diogelwch ar y ffyrdd lleol.

4.Oes modd i mi gyflwyno cais am gilfach barcio os oes twmpathau cyflymder (mesurau arafu traffig) y tu allan i fy nghartref?

Oes. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhai achosion lle byddai rhai nodweddion o'r fath yn ein hatal rhag darparu cilfach barcio. Os oes mesurau arafu traffig yn bresennol yng nghyffiniau eich eiddo, mae'n bosibl y bydd angen i swyddogion y priffyrdd gynnal asesiad.

5. Oes modd i mi wneud cais am Gilfach Barcio i Berson Anabl os oes gyda fi fynediad at garej (ond dydy'r garej ddim yn cael ei ddefnyddio fel garej/wedi'i drosi/yn rhy fach ar gyfer car)?

Ateb: Os oes gyda chi fynediad at le y byddai modd ei ddefnyddio i barcio cerbyd oddi ar y ffordd, neu rydych chi'n berchen ar le o'r fath, byddai hyn fel arfer yn golygu nad ydych chi'n gymwys i gael cilfach barcio, waeth sut rydych chi'n dewis defnyddio'r lle ar hyn o bryd neu os ydych chi o'r farn bod y garej yn rhy fach ar gyfer eich cerbyd. Mae rhai eithriadau i'r uchod, er enghraifft, os yw'r garej wedi'i drosi'n annedd i bobl fyw ynddi - yna, fyddai dim modd defnyddio'r lle yma i barcio car felly ni fyddai'n cael ei ystyried yn fan parcio oddi ar y ffordd.

6. Pa dystiolaeth y bydd gofyn i mi ei darparu yn rhan o fy nghais?

Ateb: Bydd rhaid i chi ddarparu:

  • Prawf o'ch Bathodyn Glas.
  • Prawf o unrhyw fudd-daliadau cymwys.
  • Prawf bod car wedi'i gofrestru yn eich cyfeiriad.
  • Tystiolaeth feddygol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol (Ymgynghorydd, Nyrs Arbenigol, neu Ffisiotherapydd - DDIM yn feddyg teulu) sy'n nodi manylion eich anawsterau o ran symudedd a pharcio. Mae modd i chi lawrlwytho templed tystiolaeth feddygol.
  • Cadarnhad nad oes gyda chi fynediad i fan parcio oddi ar y ffordd.
  • Unrhyw ddogfennau eraill y gofynnir amdanynt i gadarnhau eich bod chi'n gymwys.

7. A ydych chi'n croesawu ceisiadau gan ddeiliaid Bathodyn Glas sydd heb wneud cais am fudd-dal cymwys?

Ateb: Na, fyddwch chi ddim yn gymwys ar gyfer y cynllun os nad ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau cymwys.

8. Sut ydw i'n mynd ati i wneud cais am Gilfach Barcio ar gyfer Person Anabl?

Ateb: Mae modd gwneud cais:

  • Ar-lein ar wefan y Cyngor.
  • Wyneb yn wyneb mewn Canolfan IBobUn.

Fyddwn ni ddim yn derbyn ceisiadau dros y ffôn gan y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth.

9. Oes rhywun ar gael i fy helpu i gyda fy nghais?

Ateb: Bydd modd i staff ein Canolfannau IBobUn eich helpu chi i gwblhau'r cais, a byddan nhw'n gwneud copi o'r holl ddogfennau ategol sydd eu hangen i gyflwyno cais. Rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n dymuno gwneud cais i ymweld â Chanolfan IBobUn gan y bydd modd i'n staff fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi neu unrhyw gwestiynau sydd gyda chi (rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw). Fyddwn ni ddim yn derbyn ceisiadau dros y ffôn. 

10. Oes angen talu i wneud cais yn rhan o'r cynllun?

Ateb: Na, mae'r ffi weinyddol o £10 bellach wedi'i dileu. Fodd bynnag, rhaid i'r ymgeisydd dalu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chasglu'r dogfennau gofynnol (gan gynnwys tystiolaeth feddygol) ac ni fydd y Cyngor yn eu had-dalu.

11. Sut alla i ddod o hyd i'r dystiolaeth feddygol angenrheidiol?

Ateb: O ganlyniad i'w cyflwr meddygol, bydd gan rai unigolion Ymgynghorydd, Ffisiotherapydd neu Nyrs Arbenigol. Os felly, bydd modd i chi ofyn iddyn nhw gwblhau'r ffurflen tystiolaeth feddygol neu ysgrifennu llythyr sy'n trafod eich anawsterau o ran symudedd a pharcio. Fel arall, mae'n bosibl y byddwch chi'n dymuno trefnu apwyntiad preifat i weld Ffisiotherapydd, a all gwblhau'r ffurflen tystiolaeth feddygol ar eich cyfer chi. Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig ag apwyntiadau neu ffioedd am lythyrau.

12. Faint o gilfachau parcio sy'n cael eu dyrannu bob blwyddyn?

Ateb: Mae 15 cilfach barcio yn cael ei dyrannu bob blwyddyn. Bydd 20 o gilfachau parcio yn cael eu dyrannu yn ystod blwyddyn gychwynnol y cynllun newydd (2026-27).

Mae modd gweld rhagor o fanylion am y penderfyniad dan sylw yma: Y Cabinet yn Cymeradwyo Model Newydd o ran y Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus

13. Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Ateb: Ar ôl i ni dderbyn eich cais a'r holl ddogfennau ategol, bydd y Cyngor yn mynd ati i adolygu eich gwybodaeth ac mae'n bosibl y bydd swyddogion yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o fanylion. Os yw eich cais yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, cynhelir asesiad bwrdd gwaith i benderfynu a fyddai'n ymarferol bosibl gosod cilfach barcio yn eich lleoliad. Yn ogystal, bydd Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol yn ymweld â chi er mwyn cwblhau asesiad mewn perthynas â'ch sefyllfa. Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth am gynnydd eich cais ar adegau gwahanol yn ystod y broses ymgeisio, fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhai camau'n cymryd mwy o amser i'w cwblhau nag eraill felly mae'n bosibl na fyddwch chi'n clywed gennym ni am gyfnodau o amser. Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i roi gwybod am ganlyniad eich cais.

14. Beth sy'n digwydd os fydd fy nghais yn aflwyddiannus?

Ateb: Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i roi gwybod am ganlyniad eich cais, bydd y llythyr yma'n cynnwys y rhesymau dros wrthod eich cais. Byddwn ni'n rhannu adborth am eich cais ar adegau gwahanol yn ystod y broses ymgeisio, fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhai camau'n cymryd mwy o amser i'w cwblhau nag eraill felly mae'n bosibl nafyddwch chi'n clywed gennym ni am gyfnodau o amser.

15. Oes gyda fi hawl i apelio os yw fy nghais yn cael ei wrthod?

Ateb: Na, nid oes hawl i apelio ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn gweithredu unwaith y flwyddyn a byddai apeliadau'n achosi oedi yn rhan o'r broses ddyrannu. Mae croeso i chi wneud cais eto yn ystod y flwyddyn ganlynol.

16. A fydd gofyn i fi gadarnhau fy mod i'n gymwys ar gyfer y cynllun bob blwyddyn?

Ateb: Bydd, os yw eich cais am gilfach barcio'n llwyddiannus, rhaid i chi gadarnhau nad yw eich sefyllfa wedi newid a’ch bod chi'n parhau i fod yn gymwys bob blwyddyn. Os nad ydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n gymwys o hyd i gael cilfach barcio, a hynny ar ôl sawl ymgais i gysylltu, mae'n bosibl y bydd eich cilfach barcio yn cael ei thynnu'n ôl.

17. A fydd gofyn i mi ailymgeisio os byddaf yn symud tŷ?

Ateb: Os ydych chi'n symud tŷ, bydd gofyn i chi ailymgeisio gan y bydd angen i ni wirio'ch cymhwysedd yn eich cartref newydd. Bydd modd i chi wneud cais yn ystod y cyfnod ymgeisio nesaf.

18. A all unrhyw un sydd â Bathodyn Glas ddefnyddio fy nghilfach barcio?

Ateb: Yn rhan o gynllun y Cyngor, byddwch chi'n derbyn Cilfach Barcio Unigol i Ddeiliad Trwydded, gyda thrwydded unigol. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau cyfreithiol yn caniatáu i unrhyw gerbyd sy'n arddangos bathodyn i berson anabl  barcio yn y gilfach barcio am hyd at 3 awr, yn unol â rheoliadau Cymru.

19. Beth os ydw i'n amau bod rhywun yn camddefnyddio fy nghilfach barcio?

Ateb: Mae modd i chi roi gwybod i ni am achosion o gamddefnyddio cilfach barcio ar wefan y Cyngor neud drwy ffonio canolfan alwadau'r Cyngor. Gall Swyddogion Gorfodi Sifil gymryd camau yn erbyn defnydd anghyfreithlon.

20. A oes cymorth ar gael i siaradwyr Cymraeg?

Ateb: Oes, mae'r Cyngor yn hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog ac yn sicrhau bod gwybodaeth am y cynllun a'r broses ymgeisio ar gael yn y Gymraeg.