Skip to main content

Y Cabinet yn Cymeradwyo Model Newydd o ran y Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus

DPPBS CYM

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo model newydd o ran y Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl, yn dilyn adolygiad annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr a gafodd ei gynnal rhwng 14 Gorffennaf a 8 Medi 2025.

Cafodd y cynllun, sy'n darparu cilfachau parcio penodedig ar strydoedd ar gyfer trigolion cymwys sydd ag anableddau, ei atal yn 2023, er mwyn cynnal adolygiad llawn.

Bydd y cynllun diwygiedig - a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Mercher, 22 Hydref - yn cyflwyno proses ymgeisio mwy clir a thryloyw, yn ogystal â meini prawf wedi'u diweddaru. Bydd hefyd yn cynyddu nifer y cilfachau parcio sydd ar gael yn flynyddol o 12 i 15, gan gynyddu i 20 ar gyfer y flwyddyn gyntaf oherwydd bod y cynllun wedi’i atal am 2 flynedd yn ystod yr adolygiad annibynnol. Mae'r cynnydd yma’n ymateb uniongyrchol i adborth cyhoeddus, sydd wedi amlygu nad oedd y dyraniad blaenorol yn ddigonol er mwyn bodloni'r angen lleol.

Cafodd y newidiadau eu llywio gan adolygiad annibynnol, oedd wedi'i gyflawni gan Practice Solutions, ac mae ar gael yn Atodiad 1 yr Adroddiad i’r Cabinet. Roedd yn argymell nifer o welliannau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn deg, yn hygyrch ac yn gynaliadwy - a hefyd yn cydnabod gwerth y cynllun wrth gynorthwyo dyletswydd cydraddoldeb sector gyhoeddus y Cyngor yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, er iddo fod yn wasanaeth ddisgresiynol.

Mae'r model newydd yn cynnwys:

  • Proses ymgeisio glir a thryloyw, gyda'r modd i gyflwyno cais ar-lein, wyneb yn wyneb neu mewn Canolfannau IBobUn (ni fydd ceisiadau dros y ffôn yn cael eu derbyn mwyach).
  • Meini prawf cadarn, gan gynnwys yr angen am Fathodyn Glas dilys, derbyn cymhwysedd budd-daliadau penodol, tystiolaeth feddygol gan unigolyn proffesiynol ym maes iechyd, a char wedi'i gofrestru yng nghyfeiriad yr ymgeisydd sydd heb fynediad at fan parcio oddi ar y stryd.
  • Proses ailgadarnhau cymhwysedd blynyddol er mwyn sicrhau bod cilfachau yn parhau i gael eu defnyddio gan y rheiny sydd eu hangen nhw.
  • Dileu'r ffi ymgeisio o £10. Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr bellach yn gyfrifol am gost caffael y dystiolaeth feddygol ofynnol.

Tra nad yw'r model newydd yn cynnwys proses apelio o ganlyniad i gyfyngiadau o ran adnoddau, bydd ymgeiswyr yn derbyn adborth manwl os fo'u cais yn aflwyddiannus. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adolygu'r cynllun ar ôl iddo fod ar waith am flwyddyn er mwyn asesu ei effaith ac ystyried unrhyw waith cywreinio pellach.

Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus 212 o ymatebion, gyda chefnogaeth gref ar gyfer nifer o'r newidiadau arfaethedig:

  • 67% o ymatebwyr yn anghytuno â'r cynnig i gynnal y cyfyngiad blaenorol o 12 cilfach.
  • 74% yn cefnogi cyflwyno'r gofyn i ailgadarnhau cymhwysedd yn flynyddol. 
  • 97% yn cefnogi darparu adborth manwl i ymgeiswyr aflwyddiannus.

Cost amcangyfrifedig pob cilfach barcio i'r Cyngor yw tua £3,566, sy'n cynnwys y gwaith gosod, arwyddion, a mesurau rheoli traffig cysylltiedig. Ers cyflwyno'r cynllun, mae 269 o gilfachau parcio ar gyfer pobl anabl wedi cael eu gosod, gyda 115 wedi'u gwaredu ers hynny, gyda 154 ar gael o hyd. Bydd y Cyngor yn parhau i reoli'r cynllun yma yn rhan o’i gyllidebau presennol, gan gynnwys gwared â chilfachau nad oes eu hangen mwyach.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: "Bydd y cynllun diwygiedig yn gwella bywydau'r rheiny sydd ei angen fwyaf yn fawr iawn, a hoffwn i ddiolch am fewnbwn y cyhoedd yn ein hymgynghoriad diweddar. Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon sydd wedi'u codi gan drigolion ac wedi cymryd camau ystyrlon er mwyn gwella'r broses ymgeisio, cynyddu nifer y cilfachau sydd ar gael, a sicrhau bod y cynllun yn deg ac yn dryloyw.

"Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet yn sicrhau cydbwysedd rhwng bodloni'r angen lleol a sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i gynorthwyo trigolion ag anableddau i fyw yn annibynnol a gydag urddas, ac mae'r cynllun yma’n cyflawni swyddogaeth bwysig o ran sicrhau hynny."

Bydd y cynllun yn ailagor, a bydd modd cyflwyno ceisiadau ym mis Mawrth 2026, yn dilyn gwaith hyrwyddo'r model newydd er mwyn sicrhau bod trigolion wedi cael amser i baratoi a deall y gofynion newydd. Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro'r cynllun yn agos ac yn annog trigolion i ymgyfarwyddo gyda'r broses newydd cyn i'r cyfnod ymgeisio agor.

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r Cynllun Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl ag Anableddau, ewch i: Cilfachau Parcio ar gyfer Pobl Anabl | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 05/11/2025