Skip to main content

Trwydded Barcio i Breswylwyr - cais am adnewyddu trwydded

Mae modd ichi gyflwyno cais am adnewyddu trwydded barcio i breswylwyr os ydych chi'n byw o fewn Parth Parcio Preswyl penodol a bod cerbyd i deithwyr neu feic modur sy'n cael eu defnyddio ar sail amser llawn gyda chi.

Faint o drwyddedau i bob aelwyd?

Mae gan bob cartref sydd mewn Parthau Parcio i Breswylwyr, hawl i un drwydded. Bydd unrhyw drwyddedau ychwanegol yn cael eu dosbarthu yn dilyn ystyriaeth o'r lle sydd ar gael mewn parth unigol ac / neu ystyriaeth o unrhyw amgylchiadau unigol neu leol perthnasol.

Bydd ceisiadau am drwyddedau parcio i breswylwyr, sy'n ymwneud ag amgylchiadau unigol neu leol, yn cael eu penderfynu yn ôl disgresiwn y Cyngor.

Costau trwyddedau

Dyma'r costau blynyddol am drwydded

  • Trwydded gyntaf – £12
  • Ail drwydded – £17.50
  • Trwyddedau ychwanegol dilynol (os oes digon o le) - £60
  • Trwydded sydd wedi'i cholli, ei dwyn neu'i difrodi - £12

Mae un pris o £12 y drwydded ar gyfer cartrefi amlfeddiannaeth cofrestredig.

Sut mae gwneud cais?

Cyflwyno cais am adnewyddu'ch trwydded barcio i breswylwyr a thalu ar-lein
Taliad wedi'i dderbyn trwy gerdyn credyd neu ddebyd

Neu, croeso i chi gofyn am ffurflen gais trwy ffonio: 01443 425001 neu ebost: parkingservices@rctcbc.gov.uk

Eich dyletswyddau chi o dan y drwydded

Eich dyletswydd chi yw gwneud yn siŵr bod:

  • eich trwydded barcio chi'n ddilys;
  • eich trwydded barcio chi heb ddod i ben;
  • y rhif cofrestru arni'n gywir;
  • eich trwydded barcio yn cael ei defnyddio yn unol â'r amodau.

Gweithredu'r gyfraith

Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor ar batrôl yn rheolaidd mewn Parthau Parcio i Breswylwyr. Os fydd dim trwydded ddilys i'w gweld ar gerbyd wedi ei barcio yn y parthau hyn, gall dderbyn Hysbysiad Tâl Gosb hyd at £70.

Diogelu Data

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu'r wybodaeth rydych chi wedi ei nodi ar y ffurflen yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol. I ddysgu rhagor am sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol wrth brosesu trwyddedau parcio, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth.

Ceisiadau twyllodrus

Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth y byddwch chi wedi'i nodi yn gallu cael ei chymharu ag unrhyw wybodaeth sy'n cael ei chadw gan adrannau eraill y Cyngor. Efallai y byddwch chi'n cael eich erlyn am nodi gwybodaeth ffug o fwriad a/neu byddwn ni'n canslo'ch trwydded barcio.

Diddymu trwydded parcio

Mae hawl diddymu neu annilysu eich trwydded os:

  • ydyn ni'n cael gwybod bod y drwydded yn cael ei defnyddio yn groes i'r amodau;
  • ydyn ni'n cael gwybod bod eich hawl i gael y drwydded wedi dod i ben;
  • yw'r drwydded wedi'i newid neu wedi'i difwyno mewn unrhyw ffordd, neu fod pobl eraill yn ei defnyddio heb awdurdod.
Cofiwch, hyd nes y bydd eich cais yn cael ei asesu a'ch bod yn derbyn trwydded, nid oes gennych ganiatâd i barcio yn y Parth Parcio i Breswylwyr. Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor ar batrôl yn rheolaidd mewn Parthau Parcio i Breswylwyr. Os fydd dim trwydded ddilys i'w gweld ar gerbyd wedi ei barcio yn y parthau hyn, gall dderbyn Hysbysiad Tâl Gosb hyd at £70.