Skip to main content

Cofrestr Asedau

O dan Adran 21 o'r Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) gadw cofrestr a chofnod o'r holl strwythurau a nodweddion hysbys ac a fonodwydd sydd, ym marn yr awdurdod, yn debygol o gael effaith sylweddol ar berygl llifogydd yn yr ardal.

Mae ased llifogydd yn strwythur neu nodwedd a all effeithio ar lif neu storio dŵr. Gall y rhain fod wedi'u gwneud gan ddyn neu'n nodwedd naturiol o'r amgylchedd sy'n effeithio ar berygl llifogydd. Gallai hyn gynnwys ceuffosydd, coredau, pontydd, waliau a systemau draenio trefol, ymhlith enghreifftiau eraill.

Caiff cofnod asedau ei gadw a'i gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae'n cynnwys gwybodaeth fanwl am bob un o'r asedau sydd ynddo megis gwybodaeth am berchnogaeth a chyflwr atgyweirio. Nid yw'r cofnod asedau ar gael i'r cyhoedd.

Mae'r cofrestr asedau yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol yn unig am y strwythurau a’r nodweddion y tybir eu bod yn effeithio ar berygl llifogydd, megis lleoliad a math o strwythur.

Gall asedau fod yn rhai cyhoeddus neu breifat, fodd bynnag dyw eu cynnwys ar y Gofrestr neu Gofnod Asedau yn unig ddim yn rhoi unrhyw ddarpariaeth cynnal a chadw ychwanegol i ased. Bydd asedau preifat, hyd yn oed y rhai sydd ar Gofrestr a Chofnod Asedau'r Cyngor, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb cynnal a chadw'r tirfeddiannwr preifat.

Mae'n ofynnl hefyd i'r Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol fewnbynnu data asedau i'r Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol sy'n cofnodi strwythurau llifogydd yng Nghymru ac sy'n eiddo i ac yn gael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Am ragor o wybodaeth gallwch weld y Basdata Asedau Llifogydd Cenedlaethol yma.

I gael rhagor o wybodaeth am y gofrestr asedau ewch i'n Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.

Mae’r gofrestr asedau ar gael ar gais ac mae modd gofyn am gopïau isod:

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH