Skip to main content

Mathau o Lifogydd

Mae Rhondda Cynon Taf yn agored i lifogydd o sawl ffynhonnell ond yn enwedig o ffynonellau lleol sy'n cynnwys dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin, a llifogydd dŵr daear. Mae'n bwysig deall y gwahanol fathau o berygl llifogydd a phwy sy'n gyfrifol am eu rheoli - boed yn Awdurdod Rheoli Risg neu'n berchennog tir / eiddo
Mae'r tabl isod yn crynhoi'r mathau o lifogydd a phwy i gysylltu â nhw

Math o Lifogydd

Disgrifiad

Manylion cyswllt

Llifogydd dŵr wyneb

 Surface Water Flooding

Mae llifogydd dŵr wyneb yn digwydd pan fo glaw trwm yn fwy na chynhwysedd y ddaear a rhwydweithiau draenio lleol. 

I roi gwybod am lifogydd dŵr wyneb cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar:


01443 425001

 

(Y tu allan i oriau swyddfa) 01443 425011.

Llifogydd cwrs dŵr cyffredin

Ordinary Watercourse Flooding

Mae llifogydd cwrs dŵr cyffredin yn digwydd o ganlyniad i lif cwrs dŵr sy'n fwy na'u cynhwysedd. Mae modd i hyn arwain at orlifo a/neu dorri amddiffynfeydd llifogydd yn dilyn glaw trwm. Mae modd iddo hefyd gael ei achosi gan falurion yn cronni gan achosi rhwystrau mewn seilwaith.

I roi gwybod am lifogydd cwrs dŵr cyffredin cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar: ​


01443 425001

 

(Y tu allan i oriau swyddfa) 01443 425011.

Llifogydd dŵr daear

Ground Water Flooding

 

Mae llifogydd dŵr daear  yn digwydd pan fydd y lefel trwythiad naturiol o fewn yr haenau gwaelodol yn codi i lefel y ddaear. Mae hefyd yn gallu cael ei achosi gan ddŵr sy'n llifo o ffynhonnau arferol. ​ Mae hyn yn tueddu i ddigwydd ar ôl cyfnodau estynedig o law parhaus.

I roi gwybod am lifogydd dŵr daear cysylltwch â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar:


01443 425001

 

(Y tu allan i oriau swyddfa) 01443 425011.

Llifogydd o brif afonydd

Main River Flooding

 

Mae llifogydd o brif afonydd yn digwydd o ganlyniad i lifau cwrs dŵr sy'n fwy na'u cynhwysedd. Mae modd i hyn arwain at orlifo a/neu dorri strwythurau sy'n amddiffyn rhag llifogydd.

I roi gwybod am lifogydd o brif afonydd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar eu llinell digwyddiadau 24 awr:

 

0300 065 3000

 

CNC Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad

Llifogydd o garthffosydd ac yn y prif gyflenwad dŵr
Sewer and Water Mains Flooding

Mae llifogydd o garthffosydd yn aml yn cael eu hachosi gan ormod o ddŵr wyneb yn mynd i mewn i'r rhwydwaith ddraenio sydd y tu hwnt i gapasiti'r garthffos neu fethiant carthffos oherwydd cwymp neu falurion yn cronni. 

I roi gwybod am garthffos gyhoeddus neu brif gyflenwad dŵr sy'n gorlifo, ffoniwch Wasanaethau i Gwsmeriaid Dŵr Cymru ar:


0800 085 3968

 

DCWW Cysylltu â Ni

Llifogydd o ffyrdd


Flooding from Roads

Mae llifogydd o ffyrdd yn digwydd pan dydy cyfaint y dŵr glaw ddim yn draenio i ffwrdd drwy'r systemau draenio presennol.

Cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar gyfer llifogydd o draffyrdd a phrif gefnffyrdd ar:

0300 123 1213.

 

Llifogydd a Draeniau | Traffig Cymru

 

Cysylltwch â'r Cyngor yn ei swyddogaeth fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer llifogydd o ffyrdd eraill ar:

 

01443 425001

 

(Y tu allan i oriau swyddfa) 01443 425011.

 

Llifogydd o Gronfeydd Dŵr

Flooding from Resovoirs

Mae llifogydd o gronfeydd dŵr yn digwydd pan fydd storfa uwchben dŵr daear yn methu ac yn gollwng i'r ardal gyfagos.

Cysylltwch â pherchennog y gronfa ddŵr.

Mae llifogydd yn broses naturiol, a does dim modd i ni atal llifogydd, ond rydyn ni'n ymdrechu i liniaru'r perygl o lifogydd yn ein cymunedau. Mae parodrwydd yr unigolyn yn allweddol er mwyn cyfyngu ar effaith llifogydd ar eiddo, tir a busnesau yn ein cymunedau. Mae rhagor o wybodaeth am sut i fod yn fwy parod ar gyfer llifogydd ar ein tudalennau Parodrwydd Llifogydd ac Ymwybyddiaeth.