Skip to main content

Rhoi gwybod am lifogydd mewn eiddo

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ddiogel

Cyn i chi roi gwybod am lifogydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch teulu'n ddiogel.

Mewn argyfwng ac os oes perygl i fywyd, ffoniwch 999.

Rhoi gwybod am lifogydd mewn eiddo, busnes, stryd neu ar dir.

Mae modd i chi roi gwybod am lifogydd sy'n digwydd nawr, sydd ar fin digwydd, neu sydd eisoes wedi achosi difrod i eiddo, busnes, stryd neu dir.

Mae modd i chi hefyd gysylltu â'r Cyngor gan ddefnyddio manylion Canolfan Alwadau'r Cyngor isod:

  • Ffoniwch Ganolfan Alwadau'r Cyngor ar 01443 425001 (8:30am – 5pm, Dydd Llun – Dydd Gwener)
  • Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch rif ffôn y Cyngor ar gyfer argyfyngau: 01443 425011

Cymorth gan y Cyngor

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn helpu lle bo modd yn ystod llifogydd. Fodd bynnag, cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw cymryd camau i amddiffyn eu heiddo rhag llifogydd.

Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae modd i chi ddod o hyd i gamau y mae modd eu cymryd i helpu i gadw chi'ch hun, eich teulu a'ch eiddo yn ddiogel yn ystod llifogydd yma - Sut i baratoi ar gyfer llifogydd

Ffoniwch 999 os oes perygl i fywyd.

Asiantaethau eraill y mae modd i chi gysylltu â nhw:

Gall llifogydd ddigwydd am nifer o resymau. Mae gwahanol sefydliadau'n gyfrifol am wahanol fathau o lifogydd.

Llifogydd o Brif Afon

Cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru drwy ffonio eu rhif ffôn mewn argyfwng (24 awr) - 0300 065 3000.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we 'Rhoi gwybod am ddigwyddiad' Cyfoeth Naturiol Cymru.

Llifogydd o Brif Bibell Ddŵr neu Garthffosydd

I roi gwybod am garthffos gyhoeddus neu brif bibell ddŵr sy'n gorlifo, ffoniwch Wasanaethau i Gwsmeriaid Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 (rhif ffôn 24 awr)

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we  'Cysylltwch â ni' Dŵr Cymru

Llifogydd o draffyrdd a phrif gefnffyrdd

Cysylltwch ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar 0300 123 1213 neu fel arall mae modd i chi roi gwybod am lifogydd a materion draenio drwy fynd i wefan Llifogydd a Draenio | Traffig Cymru

Rhagor o wybodaeth

Mae modd i chi ddod o hyd i ragor o gyngor ynghylch sut i amddiffyn chi eich hun a'ch eiddo ar ein tudalennau Sut i Baratoi ar gyfer Llifogydd

I ddysgu rhagor am ba sefydliad sy'n gyfrifol am wahanol fathau o lifogydd, ewch i'n tudalen we Mathau o Lifogydd.