Y bwriad yw cadw traffig i symud yn hawdd ac yn ddiogel, gan gynnwys adfer y llif cyn gynted â phosibl os bydd rhwystr, ar bob ffordd yn ystod y gaeaf ac i wneud yn siŵr bod modd i yrwyr a cherddwyr fynd o gwmpas yn ddiogel.
Sut rydyn ni'n penderfynu pryd i drin y ffyrdd?
Bob dydd rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill, mae'r Cyngor yn derbyn y rhagolygon diweddaraf am gyflwr y ffyrdd gan y swyddfa dywydd. Mae'n staff ni, sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, yn eu dadansoddi'n ofalus. Yna, byddan nhw'n penderfynu ynghylch unrhyw gamau gweithredu i'w cymryd y diwrnod hwnnw.
Os nad yw'r rhagolygon yn dweud yn glir a fydd iâ neu eira'n debygol, gall y Cyngor gael gwybodaeth o nifer o synwyryddion ffyrdd ledled y sir sy'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am dymheredd arwyneb y ffordd.
Pa ffyrdd byddwn ni'n eu trin?
Mae rhwydwaith priffyrdd, sydd tua 435km o hyd ac sydd wedi'i ddiffinio ymlaen llaw, yn cael ei raeanu rhag ofn pan fydd y rhagolygon yn dangos tebygolrwydd o iâ neu eira.
Er mwyn cael gweld map o'r rhwydwaith graeanu, cliciwch yma.
- Y ffyrdd sydd wedi'u marcio'n goch (llwybrau lefel uchel) yw'r rhai rydyn ni'n eu graeanu ar sail y rhagolygon.
- Y ffyrdd sydd wedi'u marcio'n glas (llwybrau lefel isel) yw'r rhai rydyn ni'n eu graeanu pan fyddwn ni'n trin y rhwydwaith graeanu i gyd.
Sut rydyn ni'n trin y ffyrdd?
Mae ffyrdd yn cael eu trin gyda halen y graig er mwyn atal peryglon rhag ffurfio.
Mae'r gwaith taenu halen yn cael ei amseru er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith wedi ei orffen cyn i'r tywydd garw gyrraedd, ond weithiau fydd hyn ddim yn bosib os bydd newidiadau sydyn i'r rhagolygon neu os bydd y tymheredd yn gostwng yn is na'r rhewbwynt yn syth ar ôl iddi fwrw glaw.
Fydd dim halen yn cael ei daenu mewn tywydd oer sych fel arfer. Ond byddwn ni'n trin mannau gwlyb a achosir gan ferddwr neu ddŵr sy'n gollwng o gloddiau neu ddŵr o'r prif gyflenwad.
Bydd halen yn cael ei daenu cymaint â phosib ar y ffyrdd pan fydd eira hyd at 4cm o ddyfnder.
Pan fydd y rhagolygon yn awgrymu y bydd hi'n bwrw eira'n barhaus, mae cyfraddau taenu halen yn cael eu gosod i'r mwyafswm er mwyn toddi'r eira cyntaf ac er mwyn troi'r arwyneb yn wlyb gan y bydd hyn yn helpu gyda'r gwaith clirio.
Pryd byddwn ni'n dechrau clirio'r eira?
Fel arfer, byddwn ni'n dechrau clirio'r eira pan fydd yr eira wedi cyrraedd dyfnder o tua 4cm.
Mae peiriannau clirio eira arbennig (erydr eira) yn cael eu defnyddio, ac yn ogystal â chlirio'r eira oddi ar y ffordd, maen nhw'n taenu halen er mwyn helpu i atal eira rhag gorwedd ar y ffyrdd.