Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf sawl milltir o waliau cynnal sydd wedi’u nodi ar gyfer cynnal y rhwydwaith priffyrdd. Yn ogystal â’r rhain y mae sawl milltir o waliau cynnal nad ydyn ni’n sicr pwy yw’u perchennog. Mewn achosion o’r fath, rhaid archwilio pob wal yn unigol.
Sut mae penderfynu pwy sy’n gyfrifol am wal gynnal? Rhaid gofyn pwy oedd wedi’i hadeiladu, ac at ba ddiben. Os nad oes cofnodion modern ar gael i ddangos yn bendant pwy sy’n gyfrifol, rhaid penderfynu pwy sydd biau’r wal. Serch hynny, os yw cyflwr y wal yn cael ei ystyried yn beryglus yn sgil ei harchwilio, bydd rhaid ynysu’r wal a’i chau i’r cyhoedd er mwyn amddiffyn defnyddwyr y priffyrdd, waeth pwy yw’r perchennog. Bydd ymchwilio trylwyr wedyn er mwyn penderfynu pwy yw’r perchennog.
Sut mae rhoi gwybod am wal sydd wedi’i difrodi neu sy’n beryglus?
Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod os ydych chi eisiau rhoi gwybod i ni am broblem. Cofiwch roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag sy’n bosibl. Bydd hyn yn ein helpu ni i adnabod y broblem yn fuan a gwneud unrhyw waith trwsio ac atgyweirio’n gynt:
- Enw’r stryd neu’r ardal
- Yr union le ar y stryd, hynny yw, a yw’n agos i dy â rhif penodol, neu ar bwys cyffordd, er enghraifft?
- Disgrifiad o’r broblem, a’r manylion
- Eich enw, a rhif cyswllt
- Y dyddiad, a’r adeg o’r dydd, y sylwoch chi ar y broblem gyntaf
Pe gallai'r broblem yma achosi perygl uniongyrchol mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni ar ein rhif ffôn achosion brys: 01443 425011.
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 494888