Skip to main content

Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol - Gwybodaeth

Ydy Cyngor RhCT wedi stopio holl fysiau ysgol/cludiant disgyblion?

Nac ydy, ddim o gwbl!  Rydyn ni'n dal i gynnal un o'r gwasanaethau Cartref i'r Ysgol (Cludo Disgyblion) mwyaf yng Nghymru, gan gludo miloedd o blant i'r ysgol ar fysiau bob dydd.

Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i'r polisi?

Yr unig newid i'r polisi yw y bydd plant ysgol uwchradd bellach yn cael eu cludo i'r ysgol ar fws os ydyn nhw'n byw dros 3 milltir o'u hysgol gyfun/uwchradd.  Cyn hyn, dros 2 filltir oedd y terfyn.  Mae'r newid yn golygu bod y Cyngor bellach yn gyson â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)  (polisi'r Llywodraeth) ac, yn ogystal â hyn, mae 19 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn gweithredu yn unol â'r canllaw 3 milltir.

Ydy'r cludiant i blant oedran ysgol gynradd wedi newid mewn unrhyw ffordd?

Nac ydy.  Fuodd dim newidiadau mewn perthynas â hynny.  Mae'r Cyngor wedi cytuno i gadw'r polisi o gludo plant oedran ysgol gynradd ar fysiau os ydyn nhw'n byw dros 1.5 milltir o'r ysgol.  Mae hyn yn rhagori ar bolisi'r Llywodraeth, sef cludo plant i'r ysgol ar fws os ydyn nhw'n byw mwy na 2 filltir o'u hysgol gynradd. Fe wrandawodd y Cyngor ar bryderon rhieni a rhanddeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad helaeth 9 wythnos (wedi'i ymestyn o'r cyfnod cychwynnol o 6 wythnos), gan benderfynu peidio â gwneud unrhyw newidiadau i gludiant i ysgolion cynradd. Mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth yma yn RhCT yn mynd y tu hwnt i'r gofyniad cyfreithiol ac yn gynnig mwy hael na'r mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ydy'r Cyngor yn dal i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n cael addysg Ôl-16 oed ac mewn colegau?

Er does dim rhaid i'r Cyngor ddarparu'r cludiant yma o gwbl, mae Cyngor RhCT yn darparu cludiant i fyfyrwyr y 6ed a myfyrwyr coleg sy'n byw mwy na 3 milltir o'u man addysg.

Ydy'r Cyngor wedi rhoi'r gorau i gludiant ar gyfer yr ysgolion Ffydd a chyfrwng Cymraeg?

Nac ydy - yr unig newid yw defnyddio'r pellter o 3 milltir yn lle'r terfyn blaenorol o 2 filltir ar gyfer ysgolion uwchradd.  Mae'r Cyngor yn dal i arfer ei bwerau disgresiynol i ddarparu cludiant yn unol ag ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg.

Ydy'r newidiadau wedi effeithio ar gludiant i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn unrhyw ffordd?

Nac ydy.  Mae Cyngor RhCT wedi amddiffyn cyllideb cludo disgyblion ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ALN) ac wedi parhau i'w chynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Beth mae'r Cyngor wedi'i wneud i helpu i gynorthwyo disgyblion a myfyrwyr i gyrraedd yr ysgol neu'r coleg?

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno nifer o fentrau i gynorthwyo myfyrwyr i gael mynediad at eu haddysg. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio cyllid allanol trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i redeg y cynllun bws £1 ar gyfer plant 5-15 oed yn RhCT – mae'r cynllun hwn yn golygu bod modd i blant a phobl ifanc yn RhCT fanteisio ar gynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2 fis yn gynnar.  Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor wedi dyrannu £100,000 fel arian caledi i ysgolion uwchradd i gefnogi teuluoedd.  Mae'r Cyngor hefyd wedi trafod yn helaeth â Thrafnidiaeth Cymru ynghylch y tocynnau myfyrwyr misol a mentrau i weithredu prisiau gostyngol i fyfyrwyr.

Faint mae RhCT yn ei wario ar gludo disgyblion sydd y tu hwnt i'r ddarpariaeth statudol?

Er bod y Cyngor wedi arbed £2.06miliwn o'r gyllideb ar gyfer cludo disgyblion, ac hynny drwy arbedion ac osgoi costau, rydym ni'n dal i roi £4.8milwn tuag at gludo disgyblion, yn ychwanegol at yr hyn a ddisgwylir o dan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr.  Mae'r Cyngor yn dal i wario £13 miliwn y flwyddyn ar gludo disgyblion.

Pa mor bell y tu hwnt i'r isafswm statudol y mae'r Cyngor yn mynd wrth gludo disgyblion?

Mae'r Polisi Dewisol yn golygu bod miloedd o ddisgyblion ychwanegol yn cael eu cludo ar fysiau i'r ysgol neu'r coleg bob dydd yn ychwanegol at y rhai y mae rhaid i ni ddarparu cludiant ar eu cyfer nhw dan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr.