Cwestiynau Cyffredin
Beth yw'r newidiadau gwasanaeth i'r ddarpariaeth gwasanaeth Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol?
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn darparu Cludiant i bob disgybl sy'n byw 1.5 milltir i ffwrdd o'u hysgol gynradd a 2 filltir o'u hysgol uwchradd. Mae hyn uwchlaw’r gofyniad cyfreithiol statudol sydd wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru.
O dan y cynnig newydd, fel y’i cymeradwywyd gan y Cabinet ar 20 Mawrth, bydd y Cyngor yn cynnal y meini prawf pellter disgresiynol (dewisol) presennol o ddarparu cludiant am ddim i bob ysgol gynradd, (Cymraeg, Saesneg a Ffydd). Mae hyn yn golygu y bydd disgyblion sy'n byw 1.5 milltir neu ymhellach o'u hysgol gynradd yn parhau i dderbyn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol am ddim.
Serch hynny, bydd darpariaeth cludo disgyblion ar gyfer pob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i fod yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr. Mae hyn yn golygu y bydd Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol am ddim bellach yn cael ei ddarparu i ddisgyblion sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o'u hysgol uwchradd neu goleg.
Bydd y newid hwn yn y gwasanaeth yn rhoi polisi trafnidiaeth y Cyngor yn gyson â meini prawf cymhwysedd pellter statudol a pholisi pellter cerdded statudol Llywodraeth Cymru, y mae 18 o'r 22 o Gynghorau yng Nghymru yn ei weithredu ar hyn o bryd.
Pryd byddai'r newid gwasanaeth yn dod i rym?
Byddai newidiadau i ddarpariaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
Beth yw dyletswydd statudol y Cyngor ar gyfer darparu Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol?
Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, rhaid i'r Cyngor:
- Asesu anghenion teithio disgyblion yn ei ardal.
- Darparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgolion cynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf.
- Darparu cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgolion uwchradd sy’n byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf.
- Asesu a diwallu anghenion plant “sy’n derbyn gofal” yn ei ardal.
- Hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
- Hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio.
Beth oedd y broses ymgynghori ar gyfer y newid hwn yn y gwasanaeth?
Yn ei gyfarfod ar 20 Tachwedd 2023, cytunodd y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â Pholisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol newydd arfaethedig.
Yn dilyn hyn, cafodd cyfnod ymgynghori cyhoeddus ei gynnal gyda'r holl randdeiliaid allweddol megis disgyblion, rhieni, cynhalwyr (gofalwyr), darparwyr cludiant ac Aelodau Etholedig.
Yn wreiddiol, roedd yr ymgynghoriad ar agor rhwng dydd Llun 27 Tachwedd 2023 a 5pm ar ddydd Llun 8 Ionawr 2024. Fodd bynnag, cafodd yr ymgynghoriad ei ymestyn am gyfnod pellach o dair wythnos, o ddydd Iau 18 Ionawr tan 5pm dydd Iau 8 Chwefror 2024. Felly, roedd yr ymgynghoriad ar agor am gyfanswm o naw wythnos.
Roedd modd i bobl ymateb i’r ymgynghoriad drwy amrywiol sianeli gan gynnwys arolwg/holiadur ar-lein, cyfeiriad e-bost pwrpasol ar gyfer yr ymgynghoriad, cyfeiriad post rhadbost, opsiwn dros y ffôn, a rhoi adborth yn yr 8 sesiwn ymgysylltu lleol a gafodd eu cynnal ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Roedd adroddiad manwl dilynol a oedd yn amlinellu adborth a methodoleg yr ymgynghoriad ar gael i'r Cabinet ei drafod. Mae modd dod o hyd i adroddiad y Cabinet yma ac mae modd dod o hyd i adborth yr ymgynghoriad yma.
Sut mae adborth o'r cyfnod ymgynghori wedi bwydo'n ôl i'r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer y newid hwn yn y gwasanaeth?
Y cynnig cychwynnol fel y’i cyflwynwyd i’r Cabinet ar 20 Tachwedd, 2023, i symud darpariaethau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol i ysgolion cynradd ac uwchradd i fod yn unol â gofynion cymhwysedd pellter cyfreithiol statudol Llywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, mewn ymateb i'r adborth helaeth o'r ymgynghoriad, cymeradwyodd y Cabinet yr opsiwn amgen a gyflwynwyd ddydd Mercher 20 Mawrth, i gludiant ysgol gynradd aros ar ei lefel ddewisol bresennol o 1.5 milltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i'w hysgol addas agosaf.
O dan yr opsiwn amgen, fel y’i cymeradwywyd gan y Cabinet, bydd y Cyngor yn parhau i fynd y tu hwnt i’w ofyniad statudol o ran parhau i ddarparu cludiant yn ôl disgresiwn ar gyfer disgyblion cyn oed ysgol gorfodol, myfyrwyr addysg Ôl-16 oed, ac ar gyfer disgyblion sydd ddim yn mynychu’r ysgol addas agosaf oherwydd dewis iaith a/neu enwad crefyddol dewisol.
Pam mae'r newid i'r gwasanaeth hwn wedi'i ystyried?
Rhaid i'r Cyngor osod cyllideb gytbwys gyfreithiol bob blwyddyn fel y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r Cyngor adolygu gwasanaethau lle maen nhw'n mynd y tu hwnt i'n gofyniad cyfreithiol statudol.
Yn hanesyddol, mae'r Cyngor wedi darparu mynediad i gludiant ysgol ar sail ddewisol, sy'n llawer uwch na'i rwymedigaethau statudol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn darparu cludiant yn ôl disgresiwn (dewisol) i fwy o ddisgyblion na bron pob Cyngor arall yng Nghymru o ran eu gweithrediadau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.
Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod costau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol y Cyngor wedi cynyddu o £8 miliwn yn 2015 i dros £15 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Byddai’r newid i'r gwasanaeth, fel y’i cymeradwywyd gan y Cabinet, yn sicrhau arbedion gwerth £1.4 miliwn yn cael eu gwireddu ym mlwyddyn ariannol 2025/26, gyda’r arbediad blwyddyn lawn o £2.5 miliwn wedyn yn cael ei wireddu o flwyddyn ariannol 2026/27. Er, bydd yr opsiwn amgen a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet yn lleihau'r arbedion cyffredinol posibl o tua £200,000.
Mae hyn yng nghyd-destun Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, sydd ar hyn o bryd yn rhagweld bwlch cyllidebol o £85.4 miliwn hyd at flwyddyn ariannol 2026/27.
Sut bydd y newid i'r gwasanaeth yn effeithio ar blant cyn oed ysgol gorfodol (dan 5 oed)?
O dan ganllawiau Llywodraeth Cymru, does dim darpariaeth statudol i Gynghorau ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion nad ydyn nhw o oedran ysgol gorfodol (3 oed tan ddiwedd y tymor y mae'r plentyn yn troi'n 5) sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Er hyn, o dan y newid i'r gwasanaeth bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant ysgol am ddim ar sail ddewisol i ddisgyblion sy'n byw 1.5 milltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i'w hysgol ddalgylch neu ysgol addas agosaf. Bydd hyn ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol arferol ac nid ar gyfer amser cinio.
Sut bydd newidiadau yn effeithio ar ddisgyblion sy'n mynychu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg?
O dan y newid i'r gwasanaeth, bydd y Cyngor yn parhau i gynnal y meini prawf pellter dewisol presennol o ddarparu cludiant i bob ysgol gynradd. Bydd hyn yn golygu bod y Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant ysgol am ddim ar gyfer disgyblion cynradd cyfrwng Cymraeg sy’n byw 1.5 filltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i’w hysgol addas agosaf.
Yn rhan o ddarpariaeth ddewisol y Cyngor, bydd disgyblion yn parhau i gael dewis eu ‘hysgol addas’ agosaf yn unol â’u dewis iaith cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar ddisgyblion sy'n mynychu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg?
O dan y newid i'r gwasanaeth, byddai darpariaeth cludiant i bob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i symud yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur.
Mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i'w hysgol addas agosaf.
Yn rhan o ddarpariaeth ddewisol y Cyngor, bydd disgyblion yn parhau i gael dewis eu ‘hysgol addas’ agosaf yn unol â’u dewis iaith cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Ffydd gynradd?
O dan y newid gwasanaeth, bydd y Cyngor yn cynnal y meini prawf pellter dewisol presennol o ddarparu cludiant i bob ysgol gynradd. Bydd y Cyngor felly yn parhau i ddarparu cludiant ysgol am ddim ar gyfer holl ddisgyblion Ysgolion Ffydd Cynradd sy’n byw 1.5 filltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i’w hysgol addas agosaf.
Yn rhan o ddarpariaeth ddewisol y Cyngor, bydd disgyblion yn parhau i gael dewis eu ‘hysgol addas’ agosaf yn unol â’u henwad crefyddol dewisol.
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Ffydd uwchradd?
O dan y newid i'r gwasanaeth, byddai darpariaeth cludiant i bob ysgol uwchradd a choleg (Cymraeg, Saesneg a Ffydd) yn newid i symud yn unol â’r meini prawf pellter statudol perthnasol fel y’u nodir yn y Mesur.
Mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion Ysgolion Ffydd uwchradd sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i'w hysgol addas agosaf.
Yn rhan o ddarpariaeth ddewisol y Cyngor, bydd disgyblion yn parhau i gael dewis eu ‘hysgol addas’ agosaf yn unol â'u henwad crefyddol dewisol.
Beth mae'r newidiadau yn ei olygu i'r rhai sy'n cael addysg ôl-16?
Ar hyn o bryd does dim dyletswydd gyfreithiol i ddarparu trefniadau cludiant am ddim neu drwy gymhorthdal i blant sydd ddim o oedran ysgol gorfodol.
Er gwaethaf hynny, o dan y newid i'r gwasanaeth, bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant ar sail ddewisol i fyfyrwyr ôl-16 sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, sy'n byw 3 milltir neu ymhellach o bellter cerdded sydd ar gael i'w hysgol neu goleg addas agosaf.
Mae gan fy mhlentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ei hawl i gludiant?
Byddai plant a phobl ifainc ag anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol sy'n mynychu addysg brif ffrwd yn cael eu hasesu'n unigol ar gyfer cludiant ar sail disgresiwn.
Dydy plant sy’n mynychu eu hysgol arbennig dalgylch neu ysgol arbennig agosaf, uned cyfeirio disgyblion neu ddosbarth cymorth/cynnal dysgu ddim yn cael eu hystyried yn rhan o’r cynigion hyn, felly does dim newid i’w darpariaeth bresennol.
Beth os yw plentyn yn derbyn Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol oherwydd bod ei lwybr i'r ysgol yn anniogel?
Os nad oes llwybr cerdded diogel i'r ysgol ar gael i ddisgybl, bydd cludiant am ddim yn parhau i gael ei ddarparu.
Sut mae'r hawl i gael cludiant am ddim i'r ysgol yn dibynnu ar yr ysgol mae rhieni'n ei dewis?
Os ydych chi'n dewis peidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol addas agosaf neu ysgol y dalgylch, mae gofyn i chi drefnu cludiant ar gyfer eich plentyn i'r ysgol, a thalu am y cludiant hwnnw.
Sut mae llwybrau cerdded i'r ysgol yn cael eu hasesu?
Mae'r meini prawf ar gyfer penderfynu pwy sydd â hawl i gael cludiant ysgol am ddim yn seiliedig ar bellter cerdded, ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. A siarad yn gyffredinol, bydd llwybr ar gael os yw'n ddigon diogel i ddisgybl gerdded ar ei ben ei hun, neu yng nghwmni oedolyn priodol, gan ddibynnu ar oedran y disgybl.
Yn rhan o waith asesu’r llwybr cerdded, bydd y Cyngor yn asesu'r peryglon sy’n wynebu plant a’r rhieni/gwarcheidwaid sy’n eu hebrwng ar hyd y llwybr rhwng y cartref a’r ysgol. Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal ar amseroedd a dyddiau penodol pan fyddai disgwyl i'r disgyblion ddefnyddio’r llwybr. Bydd yn rhoi ystyriaeth i faterion diogelwch y ffyrdd, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn nogfen Asesu Risg Llwybrau Cerdded i’r Ysgol.
Fel gyda phob llwybr cerdded a aseswyd o dan y canllawiau statudol, dydy’r dopograffeg ar hyd llwybr na'r tywydd ddim yn peri pryderon diogelwch a dydyn nhw ddim yn cael eu hystyried.
Fel y cadarnhawyd gan y Cabinet ar 20 Mawrth, bydd yr holl lwybrau cerdded i'r ysgol yn cael eu hadolygu, a'u hailasesu lle bo'n briodol, cyn cadarnhau cymhwysedd.
Sut mae modd i fi wybod y pellter rhwng fy nghyfeiriad cartref a chyfeiriad yr ysgol?
Does dim modd i’r Cyngor ddarparu mesuriadau tai unigol, fodd bynnag, yn rhan o’r ymgynghoriad, mae mapiau ardaloedd dangosol, sy’n tynnu sylw at yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, wedi’u cyhoeddi yma ar wefan y Cyngor. Mae'r llwybrau cerdded a ddefnyddiwyd i bennu'r mapiau hyn wedi'u hen sefydlu ac yn cael eu defnyddio bob dydd.
Bydd rhieni'n cael eu hysbysu'n uniongyrchol unwaith y bydd yr holl gymhwysedd wedi'i gadarnhau.
Sut mae'r Cyngor yn mesur y pellter o'r cartref i'r ysgol?
Wrth fesur llwybrau cerdded, mae'r Cyngor yn defnyddio MapInfo Professional, sy'n cymryd data Arolwg Ordnans safonol y Llywodraeth ac yn pennu pwyntiau cyfeiriad trwy ddefnyddio geo-godau 6 digid sy'n gywir o fewn 1 metr ac a dderbynnir yn gyffredinol fel y data mwyaf cywir sydd ar gael.
Dydy'r pellter ar hyd llwybr gyrru neu feddalwedd mapio ar-lein sy'n defnyddio ardaloedd codau post ddim yn dangos mesuriad manwl gywir.
Er mwyn pennu'r ysgol addas agosaf, y Cyngor fydd yn penderfynu pa lwybr yw'r un mwyaf addas a'r un fydd yn cael ei ddefnyddio wrth fesur. Gall hyn gynnwys llwybrau, ffyrdd neu gyfuniad o'r rhain.
Mae'n rhaid i'r Cyngor fod yn gyson yn y modd y mae'n asesu'r hawl i gludiant ysgol am ddim, ac mae polisi'r Cyngor yn nodi, mewn achosion lle mae anghydfod ynghylch pellter, y Cyngor fydd yn penderfynu ar y dull mwyaf priodol o fesur pellteroedd. Mesuriad y Cyngor fydd y pellter terfynol a di-ddadl a chaiff hwn ei ddefnyddio i asesu hawl i gludiant.
Pam nad ydych chi'n cynnig yr opsiwn o brynu seddi (ar sail prawf modd neu fel arall) ar gyfer pob disgybl sy’n byw o fewn y pellter statudol i’r ysgol?
Bydd adolygiad llawn o'r ddarpariaeth cludiant yn cael ei gynnal ar sail nifer y disgyblion â hawl o fis Medi 2025, h.y. y rhai sydd o fewn 3 milltir i'w hysgol uwchradd addas agosaf. O ganlyniad i'r adolygiad yma mae'n annhebygol y bydd unrhyw gapasiti dros ben sylweddol i gynnig seddi ar werth o fis Medi 2025, er y bydd y rhain ar gael yn unol â pholisi gwerthu seddi presennol y Cyngor.
Serch hynny, cyn bo hir bydd deddfwriaeth Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw goets/bws sy'n cael ei ddefnyddio ar wasanaeth rheolaidd ddarparu mynediad i gadeiriau olwyn. Bydd y ddeddfwriaeth honno'n berthnasol i gludiant i ddisgyblion a ddarperir gan Awdurdodau Lleol ar sail ddewisol lle mae'r Awdurdodau Lleol yn casglu ffi gan y disgybl (h.y. codi tâl neu werthu seddi dros ben). Ar yr adeg hon, rhaid i bob bws fod yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio fel un sy’n cydymffurfio’n llawn neu’n rhannol â’r ddeddfwriaeth erbyn 1 Awst 2026.
O ganlyniad i'r newid hwn mewn deddfwriaeth fydd dim modd gwerthu seddi ar fysiau ysgol sydd wedi'u contractio gan y Cyngor o ddechrau’r flwyddyn ysgol ym mis Medi 2026.